Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Newyddion
    • Datganiad i’r Wasg

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
Sefydliadau Plant yn Hyrwyddo Hawliau Plant yn yr Eisteddfod, 4/8/2008
Sefydliadau Plant yn Hyrwyddo Hawliau Plant yn yr Eisteddfod, 4/8/2008

Daw sefydliadau plant yng Nghymru ynghyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, gyda rhaglen wythnos o weithgareddau yn hyrwyddo hawliau plant.

Trefnir y Stondin Sefydliadau Plant gan gorff ymbarél Plant yng Nghymru mewn partneriaeth gyda nifer o sefydliadau plant yn cynnwys yr NSPCC, NCH Cymru, Barnardo’s Cymru, Cymdeithas Tai Hafan, Relate Cymru, Continyou Cymru, Gwasanaethau Chwarae Caerdydd a Chymdeithas Genedlaethol Llyfrgelloedd Teganau a Hamdden.

Mae’r sefydliadau yn hwyluso rhaglen wythnos o weithdai ar gyfer plant. Bydd y rhain yn amrywio o hyrwyddo chwarae a gweithgareddau crefft i weithdai penodol ar bynciau’n cynnwys gweithdy’n hyrwyddo gwerth clybiau coginio a gweithdai sgiliau syrcas yn hyrwyddo rhaglen dysgu Pyramid tu allan i oriau ysgol. Rhwng y gweithdai bydd digonedd o weithgareddau crefft ar gyfer plant a phobl ifanc yn cynnwys gwneud bathodynnau a chreaduriaid plastig a pheintio wynebau. Bydd y stondin hefyd yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc ddweud eu barn ar sut y dylai Cymru gael ei rhedeg.

Nodiadau:

1. Mae Stondin Sefydliadau Plant ar stondin rhif 1115 i 1118. Atodir rhaglen o weithgareddau.

2. Plant yng Nghymru

Plant yng Nghymru yw’r sefydliad ymbarél cenedlaethol ar gyfer y rhai sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru. Ei nod yw hyrwyddo diddordebau’r grwpiau hyn a gweithredu i ddiwallu eu hanghenion.

www.plantyngnghymru.org.uk

3. NSPCC Cymru

Yr NSPCC yw prif elusen plant y Deyrnas Unedig yn arbenigo mewn amddiffyn plant ac atal creulondeb i blant. Diben yr NSPCC yw rhoi diwedd ar greulondeb i blant. Ei weledigaeth yw cymdeithas lle caiff plant i gyd eu caru a’u parchu ac yn cyflawni eu potensial. Mae NSPCC Cymru yn cynnal 18 prosiect ar hyd a lled Cymru.

www.nspcc.org.uk

4. NCH

Mae NCH Cymru yn helpu plant i gyflawni eu potensial llawn a thrwy ein gwasanaethau mae’n cefnogi rhai o’r plant mwyaf bregus sydd wedi eu hallgau fwyaf yng Nghymru. Mae NCH Cymru hefyd yn hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol drwy lobio ac ymgyrchu dros newid.

http://www.nch.org.uk/cymru

5. Cymdeithas Tai Hafan

Mae Tai Hafan yn gweithio gyda menywod o bob oedran a’u plant (os oes ganddynt rai) sydd angen tai â chymorth i’w cynorthwyo wrth gyflawni eu hanghenion a’u galluogi i ddatblygu’r annibyniaeth angenrheidiol i gymryd rheolaeth dros eu bywydau eu hunain.

www.tai-hafan.co.uk

6. Relate Cymru

Mae Relate yn elusen genedlaethol sy’n gweithio i hyrwyddo perthynas iach. Cynigiwn ystod eang o wasanaethau i helpu cefnogi pobl sydd eisiau gwella eu perthynas a gwneud bywyd yn well ar eu cyfer eu hunain a’u teuluoedd. Nod Relate yw hyrwyddo iechyd, parch a chyfiawnder mewn perthynas cyplau a theuluoedd.

www.relate.org.uk

7. Barnardo’s Cymru

Mae Barnardo's Cymru yn gweithio gyda phobl ifanc a’u teuluoedd mewn dros 40 o brosiectau arbenigol mewn cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda phlant y mae rhai o faterion pwysicaf heddiw yn effeithio arnynt: tlodi, diweithdra, anabledd, profedigaeth a chamdriniaeth.

www.barnardos.org.uk

8. Gwasanaethau Chwarae Plant Caerdydd

Mae Gwasanaethau Chwarae Plant Caerdydd yn canolbwyntio ar ddarparu cyfleoedd chwarae gyda staff yn bresennol ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng pump a phedair ar ddeg oed.

http://www.cardiff.gov.uk/content.asp?Parent_Directory_id=2865&nav=2868,2971,3872

9. Cymdeithas Genedlaethol Llyfrgelloedd Teganau a Hamdden

Mae NATLL yn bodoli i gefnogi llyfrgelloedd teganau a hamdden presennol i hyrwyddo datblygu llyfrgelloedd teganau a hamdden newydd ac i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd chwarae.

http://www.natll.org.uk/

10. ContinYou

Ein nod yw creu cyfleoedd ar gyfer dysgu fydd yn helpu pobl i newid eu bywydau, gwella lles unigolion, teuluoedd a chymunedau. Rydym yn ymroddedig i sicrhau y cedwir dysgu tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, yn ei holl agweddau, yn gadarn yng nghanol addysg a pholisi’r llywodraeth ar hyd a lled Cymru.

I gael gwybodaeth bellach cysyllter â:

Ymholiadau yn Gymraeg:

Anita Myfanwy, Swyddog Datblygu Gogledd Cymru, Plant yng Nghymru,

Ffôn: 07760151222, E-bost: anita.myfanwy@childreninwales.org.uk

Ymholiadau yn Saesneg

Lynne Hill, Cyfarwyddydd Polisi, Plant yng Nghymru,

Ffôn: 029 2034 2434/ 07721 568090, 

E-bost: lynne.hill@childreninwales.org.uk

Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
Sefydliadau Plant yn Hyrwyddo Hawliau Plant yn yr Eisteddfod, 4/8/2008

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence