Barnardo’s CymruPartneriaeth Heol Marlborough44-46 Heol Marlborough Y Rhath Caerdydd CF23 5BX
Ffôn: 029 2049 7531
E-bost: marlboroughroadpartnership@barnardos.org.uk
www.barnardos.org.uk.marlboroughroad
Tai Caerdydd
Gwasanaeth Cymorth i Bobl Ifanc Sengl
Tai â chymorth a chymorth fel y bo’r angen i bobl ifanc 16-21 mlwydd oed sy’n agored i niwed, gan ganolbwyntio ar gynorthwyo pobl ifanc i ennill y sgiliau, y wybodaeth a’r ymwybyddiaeth angenrheidiol i fyw’n fwy annibynnol yn eu cymunedau, gyda gwasanaethau neilltuol ar gyfer pobl ifanc groenddu a lleiafrifoedd ethnig a merched ifainc croenddu a lleiafrifoedd ethnig sy’n ffoi rhag trais teuluol.
Gwasanaeth i Deuluoedd Ifainc
Mae’n darparu tai a chymorth ar gyfer teuluoedd ifainc sy’n agored i niwed ble mae’r prif ofalwr yn 16 i 21 mlwydd oed, gan ganolbwyntio ar gynorthwyo pobl ifanc i ennill y sgiliau, y wybodaeth a’r ymwybyddiaeth angenrheidiol i fyw’n fwy annibynnol yn eu cymunedau. Fe fydd yn rhaid gwneud atgyfeiriadau drwy Wasanaethau Cymdeithasol Caerdydd.
Gwaith S. 180 i Atal Digartrefedd ymysg Ieuenctid.
Gan weithio mewn partneriaeth gyda Chymorth i Fenywod Caerdydd, nod y prosiect yw darparu gwybodaeth am ddigartrefedd a thrais teuluol i bobl ifanc mewn ysgolion uwchradd a gwasanaethau ieuenctid ledled Caerdydd.
Cymorth i rieni ifainc
Gwasanaethau Cymorth i Rieni Ifainc
Mae rhieni ifainc o dan 17 mlwydd oed yn gallu cymryd rhan mewn cwrs 10 wythnos fydd yn eu cynorthwyo hwy i gael y wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i ganfod eu ffordd fel rhieni ifainc ym myd oedolion. Mae rhieni oed ysgol yn cael cynnig rhaglen hwy a all bara tan eu hoedran gadael ysgol ffurfiol.
Prosiect Tadau Ifainc
Mae tadau ifainc o dan 19 mlwydd oed yn gallu cymryd rhan mewn cwrs 10 wythnos fydd yn eu cynorthwyo hwy i gael y wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i ganfod eu ffordd fel rhieni ifainc ym myd oedolion.
Gwasanaeth Caterpillar Caerdydd a Bro Morgannwg
Prosiect Caterpillar
Mae’r gwasanaeth yn hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r stigma a’r diffyg darpariaeth ar gyfer pobl ifanc sy’n profi afiechyd meddwl.
Fe all pobl ifanc 12-19 mlwydd oed sy’n profi neu sy’n debygol o brofi argyfwng iechyd meddwl gael at waith unigolion a gwaith grŵp.
Bounceback
Gwasanaeth sydd wedi’i seilio mewn tair ysgol ddiffiniedig. Mae’n cefnogi pobl ifanc 15+ mlwydd oed sy’n emosiynol agored i niwed i ddatblygu sgiliau ymdopi a gwytnwch emosiynol ac i fynd drwy Flwyddyn 11 yn llwyddiannus a phontio o’r ysgol i addysg bellach, cyflogaeth ac annibyniaeth.
Gwasanaeth Cwnsela yn yr Ysgol
Mae Partneriaeth Heol Marlborough yn darparu gwasanaeth cwnsela yn yr ysgol.