d/o 2 ParklandsCorntownGer Pen-y-bont ar Ogwr CF35 5BE
Swyddfa genedlaethol y Deyrnas Unedig 020 7613 5060Llinell Gymorth 0300 0300 363; Dydd Llun – Dydd Gwener, 6.00 yr hwyr – 10.00 yr hwyr
E-bost: bangaw@msn.comGwefan: www.fnf.org.uk
Sefydliad gydag aelodaeth wirfoddol sy’n darparu cymorth a gwybodaeth i rieni a gofalwyr sydd wedi gwahanu o’r naill ryw neu’r llall sy’n profi anawsterau gyda materion yn ymwneud â phreswylfa neu gysylltiad plant.
Mae’n gwasanaeth yn darparu cefnogaeth gan wirfoddolwyr drwy’n rhwydwaith o ganghennau - sydd ar hyn o bryd yn cyfarfod yng Nghaerdydd, Abertawe a Wrecsam - a rhannu cymorth a chyngor gyda’n haelodau, sydd â phrofiad o ymdrin â’r materion cymhleth sy’n gysylltiedig â chyrraedd cytundebau ynglŷn â gofal a chynhaliaeth plant.
‘Rydym hefyd yn cynnal cyrsiau i gymorth Ymgyfreithwyr Drostynt eu Hunain gyda thrin a thrafod achosion yn y Llysoedd Teulu. Mae rhai o’n haelodau hefyd yn darparu cyngor un i un yn swyddogaeth Cyfeillion McKenzie, yn cynorthwyo Ymgyfreithwyr Drostynt eu Hunain i baratoi ac i gynnal eu hachosion yn y Llysoedd Teulu.
‘Rydym yn cynnal llinell gymorth genedlaethol Brydeinig gyda’r nosau yn ystod y diwrnodau gwaith o 6.00 yr hwyr tan 10.00 yr hwyr ar y rhif ffôn 0300 0300 363, ac ‘rydym yn bwriadu cael llinell gymorth Gymraeg bwrpasol yn y dyfodol agos.
Mae modd cael atom drwy’r wefan www.fnf.org.uk