Mae'r Gwasanaeth Ieuenctid Cenedlaethol yn darparu gwasanaethau eiriolaeth ar gyfer plant a phobl ifanc yn Nhorfaen.
Fe all pob plentyn gael at gymorth eiriolaeth. Y mae eiriolwr yn sicrhau y gwrandewir ar blant pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud ynglŷn â hwynt, ac y mae’n grymuso’r plentyn i gael pobl i glywed ei lais. Weithiau, fe all hyn olygu llefaru drostynt mewn cyfarfodydd neu ysgrifennu llythyrau iddynt ar eu rhan. Ar adegau eraill, fe all olygu darparu’r gefnogaeth i’w galluogi hwynt i wneud hyn eu hunain.
Y mae’r Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol yn darparu gwasanaeth eiriolaeth annibynnol ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol neu ar gyfer y sawl sy’n anghenus. Fe ddarperir pecyn gwybodaeth i’r plant a’r bobl ifanc hyn, ynghyd â chopi chwarterol o’r cylchgrawn Who Cares.
Fe all plant a phobl ifanc gael at eiriolaeth eu hunain neu drwy gyfrwng eu gweithiwr cymdeithasol, gofalwr maeth, cyfreithiwr neu ymwelydd annibynnol.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol Torfaen.
Ffôn am ddim: 0800 616101
Rhif ffôn y Cydlynydd: 07920 213652
Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân Heol Glyndwr CwmbrânNP44 1QS
neu ysgrifennwch at: Rhadbost NYAS, Y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol