Llythrennedd Emosiynol oedd thema cynhadledd flynyddol Plant yng Nghymru yn 2007.
Cyflwyniadau
Antidote - SEELS Programme
Dr Nisha Dogra - Delivering Appropriate Care to Culturally Diverse Families
Shan Jones, NSPCC - Emotional Health & Wellbeing
Cathays High School - Peer Support Scheme
Julie Mellor, Hillingdon Borough Council - PALS
Dafydd Ifans, CAFCASS Cymru - Family Justice System
Penny Mansfield, One Plus One - My Mum and Dad Argue a Lot
Elizabeth Williams, Welsh Assembly Government - Demonstrating Success in Extending Entitlement and 14-19 Learning Pathways
Adrian Owen Williams, N.W. Wales NHS Trust - Motivational Interviewing with Adolescents
Ann Atkin, St Kentigern Hospice - Loss and Grief in Children
Beth yw Llythrennedd Emosiynol?
Mae Llythrennedd Emosiynol yn ymwneud â gallu person i gydnabod eu hemosiynau eu hunain ac emosiynau person arall. Fe’i diffiniwyd fel yr "ymarfer o ryngweithio gydag eraill mewn ffyrdd sy’n adeiladu dealltwriaeth o’n emosiynau ein hunain ac emosiynau person arall, ac yna ddefnyddio’r ddealltwriaeth hon i fod yn sail i’n gweithredoedd." Byddai rhywun sy’n emosiynol lythrennol yn well am adnabod, deall, trin a mynegi eu hemosiynau yn briodol.
Pam fod Llythrennedd Emosiynol yn bwysig?
Drwy ddeall eu hemosiynau eu hunain a phobl eraill yn well, mae pobl ifanc yn medru deall ei gilydd yn well ac yn teimlo mwy o gysylltiad gyda’i gilydd. Mae’r sgiliau hyn yn eu galluogi i ymdrin â sefyllfaoedd lle medrent fel arall fod wedi bod yn ddig neu wedi encilio mewn anobaith. Drwy ddelio gydag emosiynau negyddol, maent mewn gwell sefyllfa i fwynhau emosiynau cadarnhaol megis cywreinrwydd a gorfoledd. Mae Llythrennedd Emosiynol hefyd yn ei gwneud yn rhwyddach i bobl ifanc ddeall gwybodaeth yn arwain at brofiadau dysgu cyfoethocach. Gall pobl ifanc emosiynol lythrennol fod ag amrediad eang o faterion y medrant siarad gyda’i gilydd amdanynt a gallant fod yn llai tebygol o gymryd rhan mewn gweithgareddau hunanddinistriol neu dreisgar a bwlio. Mae Llythrennedd Emosiynol hefyd yn bwysig yn y blynyddoedd cynnar pan fo plant yn dechrau dysgu’r sgiliau cymdeithasol a all eu helpu i wneud ffrindiau, cydweithredu gydag eraill a datrys problemau cymdeithasol. Gall y sgiliau hyn helpu plant i ddysgu aros eu tro, rhannu, datrys gwrthdaro, rheoli dicter a sefyll i fyny drostynt eu hunain mewn modd addas.