Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Eiriolaeth
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Bwlio
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • 'Sdim Curo Plant!
  • Cynadleddau Grwp Teuluoedd
  • Plant sy’n Derbyn Gofal
  • Y Cyfryngau
  • Cyfranogaeth
  • Magu Plant
  • Diogelu Plant
  • Y Sector Gwirfoddol
    • Cyngor Partneriaeth y Sector Gwirfoddol
    • Rhwydwaith Cynnwys Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru (CYPPinCYMRU)
    • Grwp Cefnogi Sefydliadau Gwirfoddol Gogledd Cymru
  • Gofalwyr Ieuainc

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Cyngor Partneriaeth y Sector Gwirfoddol
Cyngor Partneriaeth y Sector Gwirfoddol

Cynllun y Sector Gwirfoddol

Yn unigryw i Gymru, o dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Cymru 1998, y mae Cynllun y Sector Gwirfoddol yn amlinellu sut y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu hyrwyddo buddiannau mudiadau gwirfoddol. Y mae’n amlinellu’r egwyddorion cyffredinol a’r gwerthoedd cyffredin sy’n gosod sylfaen gadarn i’r berthynas rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a’r sector gwirfoddol yng Nghymru. Y mae’r penodau allweddol yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth a threfniadau ymarferol ar gyfer ymgom a chydweithredu rhwng y sector gwirfoddol a’r Cynulliad (drwy Gyngor Partneriaeth y Sector Gwirfoddol a Chyfarfodydd Gweinidogol).

Ymrwymiad allweddol yn y Cynllun yw y bydd y Cynulliad yn cynnal Côd Ymarfer ar gyfer Cyllido’r Sector Gwirfoddol. Y mae hyn yn nodi’r egwyddorion allweddol sy’n gosod sylfaen i gyllid y Cynulliad ar gyfer y sector gwirfoddol a’r hyn y mae’r Cynulliad yn ei ddisgwyl yn dâl am hyn.

Fe ellir lawrlwytho Y Trydydd Dimensiwn – Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Cynllun y Sector Gwirfoddol oddi wrth wefan WCVA.

Cyngor Partneriaeth y Sector Gwirfoddol

Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector (TSPC) yw’r corff allweddol sy’n galluogi’r sector gwirfoddol a’r Cynulliad Cenedlaethol i gyfathrebu ynglyn â materion allweddol. Ei ddiben yw sicrhau bod yr egwyddorion a nodir yng Nghynllun y Sector Gwirfoddol yn cael eu gweithredu. Y mae’r cyfarfodydd, a gynhelir yn chwarterol, yn rhoi cyfle i aelodau’r sector gwirfoddol grybwyll materion o ddiddordeb neu o bryder wrth Aelodau a Gweinidogion y Cynulliad.

Plant yng Nghymru yw’r mudiad cynrychiadol ar gyfer sector gwirfoddol y "Plant a Theuluoedd" ar Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector, a Catriona Williams, y Prif Weithredwr, sy’n mynychu fel arfer.

Y mae Plant yng Nghymru yn dymuno datblygu unrhyw fater yr hoffech chi iddynt dderbyn sylw yng nghyfarfodydd Cyngor Partneriaeth y Sector Gwirfoddol neu yng nghyfarfodydd y Sector Gwirfoddol gyda Gweinidogion yn y dyfodol. I hwyluso’r broses hon, y mae Hannah Davey yn gweithredu fel person cyswllt i gasglu ac i gyfosod eich safbwyntiau er mwyn i Plant yng Nghymru gael mynd â hwynt ymlaen. Lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen yma er mwyn ddod yn aelod o'r Rhwydwaith Plant a Theuluoedd.

Cyfarfodydd Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector

Y mae gwybodaeth am bob un o gyfarfodydd diweddar Cyngor Partneriaeth y Sector Gwirfoddol ar gael ar dudalen Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector sydd ar adran Trafodion y wefan. Y mae holl gyfarfodydd TSPC yn agored i’r cyhoedd. Os hoffech fod yn bresennol cysylltwch ag y Cynulliad ar 029 20898 477 neu E-bost: assembly.bookings@wales.gsi.gov.uk.

Mae cofnodion y cyfarfod ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Am ragor o wybodaeth am waith Cyngor Partneriaeth y Sector Gwirfoddol a Chynllun y Sector Gwirfoddol, cysylltwch â Mirriam Nasrat.

Cyfarfodydd Gweinidogol

Y mae Cynllun y Sector Gwirfoddol o eiddo Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfarfodydd ddwywaith y flwyddyn rhwng cynrychiolwyr rhwydweithiau perthnasol y sector gwirfoddol a phob un o Weinidogion y Cabinet gan gwmpasu eu meysydd cyfrifoldeb. I gael manylion am Weinidogion y Cabinet a’u cyfrifoldebau, ymwelwch â gwefan Llywodraeth Cymru.

Y mae’r cyfarfodydd yn cael eu cynnal ddwywaith y flwyddyn, sef yn y gwanwyn ac yn yr hydref. Y mae’r sector gwirfoddol a Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gosod eitemau ar yr agenda sy’n berthnasol i’r cyfarwyddyd gweinidogol ac sy’n rhoi sylw i faterion cyffredinol sy’n ymwneud â’r sector gwirfoddol. Nid ydyw’n bosibl trafod materion sy’n ymwneud â mudiadau unigol yn y cyd-destun hwn.

Mae Plant yng Nghymru yn awyddus i gamu ymlaen gydag unrhyw faterion cyffredinol sy’n ymwneud â’r sector gwirfoddol yr hoffech chi iddynt dderbyn sylw yng nghyfarfodydd y Sector Gwirfoddol gyda Gweinidigion yn y dyfodol. I ddechrau, cysylltwch ag Hannah Davey, E-bost: hannah.davey@childreninwales.org.uk, a wnâ gasglu a chyfosod eich safbwyntiau ar gyfer y cyfarfodydd.

Mae rhagor o wybodaeth am gynllun y Sector Gwirfoddol, TSPC, cyfarfodydd â Gweinidogion, yr Adroddiad Blynyddol a’r Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu’r Sector Gwirfoddol ar wefan Llywodraeth Cymru.

Adnoddau

Ynglyn a Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector
Cynllun Y Trydydd Sector: Canllaw i gyfarfodydd gweinidogion
Ffurflen Ymuno - Rhwydwaith Plant a Theuluoedd

Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
Cyngor Partneriaeth y Sector Gwirfoddol

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence