Y mae Plant yng Nghymru yn gweithio gyda cynrychiolwyr y Cynghorau Gwirfoddol Sirol (CVC) i hwyluso cyfarfodydd chwarterol o’r Rhwydwaith Cynnwys Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru (CYPPinCYMRU). Fe anelir y cyfarfodydd hyn at gynrychiolwyr o bob un Cyngor Gwirfoddol Sirol sy’n gysylltiedig â gwaith partneriaeth yn y Partneriaethau Plant a Phartneriaethau Pobl Ifanc ac ymgysylltu â’r sector gwirfoddol. Y mae’r Rhwydwaith yn darparu cyfle delfrydol i rannu arferion gorau, gwybodaeth a phryderon ac y mae hefyd yn annog cysylltiadau gydag asiantaethau eraill gyda chyfarfodydd yn y gorffennol yn cael eu mynychu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ESTYN - Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg. a Hyfforddiant yng Nghymru, y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, a Llywodraeth Cymru. Yr ydym ar hyn o bryd yn chwilio am ffyrdd o ddatblygu ymagweddiad cydgysylltiedig ledled y sector gwirfoddol yng Nghymru parthed codi ymwybyddiaeth o ddiogelu plant a phobl ifanc mewn ymateb i’r ymgynghoriad diweddar ynglŷn â’r cynllun archwilio cefndir ac atal newydd.
Os hoffech fynychu’r Rhwydwaith i roi cyflwyniadau neu i ymgynghori â’r grŵp, yna a fyddech cystal â chysylltu â:
Sarah Thomas Plant yng NghymruFfôn: 029 2034 2434