Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Eiriolaeth
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Bwlio
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • 'Sdim Curo Plant!
  • Cynadleddau Grwp Teuluoedd
  • Plant sy’n Derbyn Gofal
  • Y Cyfryngau
  • Cyfranogaeth
  • Magu Plant
  • Diogelu Plant
    • Grwp Adolygu Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan
  • Y Sector Gwirfoddol
  • Gofalwyr Ieuainc

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Grwp Adolygu Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan
Grwp Adolygu Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan

Croeso i wefan GAGAPCG

Lawlwythwch Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan

Fe roddwyd y gorchwyl i'r GAGAPCG i gynhyrchu a diweddaru Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru gyfan. Y mae gan y grŵp archiad a chynrychiolaeth oddi wrth bob un o Bwyllgorau Ardal Amddiffyn Plant (PAAP) Cymru (a Byrddau Lleol Diogelu Plant yn y dyfodol) ac asiantaethau sy'n bartneriaid.

Y mae’r grwp hefyd yn cynhyrchu protocolau eraill, sy’n briodol i Gymru gyfan ac sy’n llwyfan ar gyfer rhannu arferion da ledled Cymru.

Y mae’r GAGAPCG yn cyfarfod yn rheolaidd yn Llandrindod. Jill Green yw'r cadeirydd a Kathryn Lewis yw'r dirprwy gadeirydd.

Y Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan - 2008

Prif waith y grwp yn ystod 2007 oedd ail-ysgrifennu'r Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan 2002.

Y maent bellach wedi’u hailysgrifennu a’u diwygio’n sylweddol i gymryd i ystyriaeth newidiadau mwy diweddar mewn polisi a deddfwriaeth. Y mae hyn yn cynnwys yr argymhellion yn Adroddiad Ymchwiliad Victoria Climbié; Deddf Plant 2004; a’r canllawiau sy’n mynd gyda hwynt, Diogelu Plant: Gweithio gyda’n Gilydd o dan Ddeddf Plant 2004, a gyhoeddwyd ‘llynedd. Y mae’r gweithdrefnau newydd wedi’u cynhyrchu ar ran holl Fyrddau Lleol Diogelu Plant yng Nghymru, ac y mae’r diwygiadau wedi’u gwneud gan y Grŵp Adolygu Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan. Y mae’r dyddiad gweithredu ar gyfer y gweithdrefnau hyn sydd wedi’u diweddaru wedi’i gytuno ar gyfer y 1af o Ebrill, 2008. Y bwriad yw y bydd diweddariadau blynyddol yn cael eu cynhyrchu i ymateb i newidiadau yn y dyfodol a fydd yn ffurfio rhan o gynllun gwaith dyfodol y Grwp Adolygu Gweithdrefnau Plant Cymru Gyfan.

Y mae’r Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan yn rhan hanfodol o’r agenda ehangach o ddiogelu plant a hyrwyddo’u lles. Y mae’r safonau cyffredin y maent yn eu darparu yn tywys ac yn goleuo ymarfer amddiffyn plant ym mhob un o’r 22 o Fyrddau Lleol Diogelu Plant ledled Cymru.  Y maent yn amlinellu’r fframwaith ar gyfer pennu sut y mae atgyfeiriadau, gweithredoedd a chynlluniau unigol ar gyfer amddiffyn plant yn cael eu gwneud a’u gweithredu.  Y maent wedi’u seilio ar yr egwyddor bod amddiffyn plant rhag niwed yn gyfrifoldeb i’r holl unigolion ac asiantaethau sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd, a gydag oedolion a all fod yn risg i blant. Y mae gweithio mewn partneriaeth a chyfathrebu rhwng asiantaethau’n cael eu nodi fel bod yn allweddol er mwyn adnabod plant sy’n agored i niwed ac i gynorthwyo i’w cadw hwynt yn ddiogel rhag niwed a chamdriniaeth.

Yn unol â Deddf Plant 2004, fe fydd gan bob un Bwrdd Lleol Diogelu Plant rôl a chyfrifoldeb allweddol ar gyfer sicrhau bod y Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan diwygiedig yn cael eu gweithredu’n llawn o fewn eu hardaloedd.  Fe fydd yn rhaid iddynt hefyd gadw golwg ar eu heffeithiolrwydd.

Newyddion Diweddaraf

Fe ddaeth Gweithdrefnau 2008 yn weithredol ledled Cymru ar y 1af o Ebrill, 2008. 

Fe ellir gwneud ceisiadau ar gyfer copiau caled trwy'r Byrddau Lleol Diogelu Plant.  

Fe ellir lawrlwytho fersiwn PDF oddi ar y wefan hon ar y ddolen isod:

Gweithdrefnau a Phrotocolau
Y mae’r adran hon yn cynnwys: Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru gyfan; Protocolau PAAP Cymru gyfan; Protocolau eraill i Gymru gyfan; Adroddiad Grwp Adolygu Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru gyfan (GAGAPCG ) i weithdy 2 PAAP Cymru.
Dolenni Cyswllt ar gyfer Grwp Adolygu Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru gyfan
Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
Grwp Adolygu Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence