Fe fydd tua un o bob tri o bobl ifanc yng Nghymru heddiw wedi cael profiad o chwalu teuluol erbyn yr amser y byddant yn cyrraedd eu harddegau cynnar. Mae tua chwarter o’r bobl ifanc hyn yn adrodd nad ydynt yn gweld eu tad biolegol. Fodd bynnag, mae bron eu hanner yn dal i adrodd eu bod yn teimlo’n agos at eu tad hyd yn oed os nad ydynt mwyach yn byw gydag ef.
Mae Erthygl 9 CCUHP yn datgan bod gan blentyn sydd wedi gwahanu oddi wrth un neu’r ddau o’i rieni'r hawl i gynnal cysylltiadau personol a chyswllt uniongyrchol yn rheolaidd, ac eithrio os yw’n groes i fuddiannau gorau’r plentyn.