Mae ymchwil yn datgelu maint y defnydd o gyffuriau ac alcohol ymysg plant a phobl ifanc yng Nghymru heddiw. Fodd bynnag, mae'r ymchwil yn mynd rhagddo i ddangos y gall perthynas tad/plentyn gref weithredu fel ffactor diogelu rhag y gwaethaf o'r gormodeddau hyn.
Mae'r adroddiad, Tyfu Fyny gyda Dad: Tadau a'u Heffaith ar Ddefnyddio Sylweddau yn ganlyniad y dadansoddiad o ymchwil a gynhaliwyd gan Plant yng Nghymru a Catch22, gan ddefnyddio'r Rhaglen Cymunedau sy'n Gofalu. Fe wnaeth y dadansoddiad edrych ar bron 18,000 o holiaduron a gwblhawyd gan bobl ifanc oedran ysgol uwchradd yng Nghymru. Mae'n edrych ar sut mae'r bobl ifanc yn ystyried eu perthnasoedd gyda'u tad ac mae'n cydberthnasu'r wybodaeth hon i ba un ai a ydynt yn yfed, ysmygu a defnyddio canabis. Mae hefyd yn ystyried pa effaith sydd gan ganfyddiadau'r bobl ifanc o agweddau'u rhieni ar eu tueddiad i ddefnyddio sylweddau.
Lansiwyd yr adroddiad gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol yn y Gynhadledd Tyfu i Fyny gyda Dad yng Nghanolfan Gynadledda ESIS, Caerdydd ar y 9fed o Fedi.
Adroddiad: Tyfu Fyny gyda Dad: Tadau a'u Heffaith ar Ddefnyddio Sylweddau
Lawrlwythwch y cyflwyniadau.