Mae llawer o’r gefnogaeth i deuluoedd yn gyffredinol, ac i dadau yn neilltuol, y dyddiau hyn yn canolbwyntio ar raglenni ymyrraeth gynnar, megis Dechrau’n Deg.
Fel mae ymennydd plentyn ifanc yn datblygu, mae yna ffenestri cyfleoedd yn ystod pryd y gall y gallu i brosesu rhai mathau o wybodaeth, boed yn weledol, o ran sŵn neu’n ieithyddol, gael ei gaffael. Pan gollir y ffenestr hon, fe all gallu’r plentyn i ddysgu gael ei andwyo’n ddifrifol. Fe all tadau, felly, fod â rhan hanfodol mewn sicrhau nad yw’r cyfryw gyfleoedd yn cael eu colli. Mae hyn yn neilltuol o wir yn y byd modern ble mae’r ddau riant yn aml yn gweithio ac mae amser yn beth prin a gwerthfawr. Mae’r syniad o chwarae gyda phlant ieuainc yn rhywbeth mae’r mwyafrif llethol o ddynion yn ei weld fel rhywbeth nad yw’n fygythiol i’w hymdeimlad o wrywdod. O safbwynt y plentyn, mae chwarae yn gyfle i ddysgu cyfres gyfan o sgiliau y bydd arnynt eu hangen yn ddiweddarach mewn bywyd.
Fe gomisiynwyd Plant yng Nghymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynhyrchu canllawiau ar gyfer y gwaith hwn, sef Cynnwys Tadau mewn Gwasanaethau Blynyddoedd Cynnar.
Tadau ac Addysg eu Plant
Mae yna gyfoeth o dystiolaeth sy’n cefnogi’r farn y gall ymgysylltiad cadarnhaol gan dadau weithredu fel rhagfynegydd ar gyfer gwell cyrhaeddiad addysgol gan blant a phobl ifanc.
Fatherhood Institute Research Summary: Fathers and their Children's Education
National Literacy Trust: Why Fathers Matter to Their Children's Literacy