Y mae’r adran hon yn amlinellu’r gwaith y mae Plant yng Nghymru yn ei wneud yn gysylltiedig â Rhianta.
Y mae rhianta yn weithgaredd a wneir gan y sawl sy’n magu plant. Y mae hyn yn cynnwys mamau a thadau, gofalwyr maeth a rhieni mabwysiadol, llysrieni, a theidiau a neiniau. Y mae awdurdodau lleol hefyd yn gweithredu fel rhieni corfforaethol i blant a phobl ifanc dan eu gofal. Y mae Plant yng Nghymru yn gweithio ar lawer o lefelau i ddatblygu cefnogaeth i rieni yng Nghymru. Yr ydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru a gweithwyr proffesiynol eraill i wella’r gefnogaeth a’r wybodaeth sydd ar gael i rieni.
Fe ddylai ymholiadau sy’n ymwneud â gwaith rhianta generig, Fforwm Magu Plant a Rhwydwaith y Cydgysylltwyr Rhianta gael eu cyfeirio at:
Lucy AkhtarSwyddog Datblygu Rhianta Ffôn: 029 2034 2434
Fe ddylai ymholiadau sy’n ymwneud yn benodol â thadau a Tadolaeth Cymru gael eu cyfeirio at:
Tony IvensSwyddog Datblygu TadolaethFfôn: 029 2034 2434
Y mae'r gwaith hyn yn cynnwys:
Fforwm Magu Plant
Tadolaeth Cymru - Gwaith gyda Thadau
Gwybodaeth i Rieni
Bod yn daid a nain yng Nghymru