Mae gwefan Cefnogi Cynnar Cymru (www.cefnogicynnarcymru.org.uk) yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Yn y cyfamser, mae rhagor o wybodaeth ar ddatblygiad rhaglen Cefnogi Cynnar yng Nghymru yma.
Mae Cefnogi Cynnar yn rhaglen sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i wella darpariaeth gwasanaethau i blant anabl o dan 5 oed a’u teuluoedd. Mae’n adeiladu ar waith a gafodd ei gynnal yn Lloegr dros y 5 mlynedd diwethaf, lle mae Cefnogi Cyngor wedi’i sefydlu’n dda mewn llawer o awdurdodau lleol.Cafodd y dasg ei rhoi i Blant yng Nghymru ac i ystod eang o bartneriaid yn y sector cyhoeddus a phartneriaid eraill gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i roi Cefnogi Cynnar ar waith yng Nghymru.
Mae rhieni wedi adrodd yn gyson am ddiffyg cydlyniad o ran gwasanaethau, lle mae systemau ar wahân sy’n gweithredu yn yr asiantaethau statudol yn rhwystro’r rhieni rhag cael gwasanaeth cysylltiedig. Mae rhieni weithiau’n teimlo bod rhaid iddynt frwydro yn erbyn y system i sicrhau bod eu teulu’n cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt yn gynnar - mae’n rhaid iddynt weithredu fel y prif bwynt cyswllt, gan gydlynu’r gwasanaethau sydd yno i’w cynorthwyo. Nod Cefnogi Cynnar yw sicrhau bod y gwasanaethau’n cael eu cydlynu’n well, gydag un pwynt cyswllt, sy’n gweithio mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar y teulu a’r plentyn, mewn partneriaeth â rhieni a gofalwyr.
Mae Cefnogi Cynnar wedi datblygu ystod o adnoddau a hyfforddiant gyda’r nod o ddod â darparwyr gwasanaeth ynghyd a rhoi’r teulu wrth wraidd y broses. Mae deunyddiau Cefnogi Cynnar wedi cael eu datblygu i helpu teuluoedd a phobl broffesiynol i symud allan o fodel o ymyrraeth argyfwng a dod ag elfen o gynllunio i fywydau teuluoedd sydd â phlant anabl ifanc. Mae’r deunyddiau’n cynnwys:
Cafodd yr adnoddau a’r rhaglenni hyfforddi eu datblygu yn Lloegr a chawsant eu hadolygu a’u datblygu i gyd-fynd â chyd-destun Cymru. Bydd yr holl ddeunyddiau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd cyfran helaeth o’r deunyddiau, gan gynnwys y ffeil deuluol, yn barod ac ar gael erbyn diwedd mis Medi 2009, pan gaiff y rhaglen ei lansio’n swyddogol yng Nghymru.
Fodd bynnag, nid yr ymyrraeth yw’r deunyddiau a chaiff egwyddorion ac ymagweddau Cefnogi Cynnar eu cyflwyno’n raddol yng Nghymru, gyda chefnogaeth ymgynghorwyr Cefnogi Cynnar yn gweithio’n agos gyda’r holl bartneriaid ledled Cymru. I gael gwybodaeth am sut i gysylltu â’ch Ymgynghorydd Cefnogi Cynnar, cysylltwch â Kathy Beach, Gweinyddwr Cefnogi Cynnar.
Bydd hyfforddiant Cefnogi Cynnar yn rhad ac am ddim yn ei gam cychwynnol a bydd y tîm hyfforddi Cefnogi Cynnar yn cefnogi ardaloedd lleol i adeiladu eu gallu eu hunain i ddarparu’r hyfforddiant.
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch Kathy Beach, Gweinyddwr Cefnogi Cynnar, Plant yng Nghymru, Ffôn: 029 2034 2434, E-bost: kathryn.beach@childreninwales.org.uk
Cyflwyniad i Cefnogi Cynnar Early Support WPPA PresentationCyflwyniadau o lansiad Cefnogi Cynnar yng Nghymru ar 29 Medi 2009 yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd.
Gwybodaeth Cefndir ar Cefnogi Cynnar.