Fe wnaeth y digwyddiad ddod â 95 o bobl anabl ifanc ynghyd fel cynrychiolwyr o fwy na 35 o wahanol wledydd o amgylch y byd i ddysgu am eu hawliau fel a’u hymgorfforir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a’r Model Cymdeithasol o Anabledd. Fe wnaeth y cynrychiolwyr drafod materion sy’n berthnasol i’w bywydau fel pobl anabl ifanc gan gyflwyno’r pryderon hyn gerbron panel o lunwyr polisi rhyngwladol. Fe wnaethant hefyd lunio siartr o gamau gweithredu i’w datblygu ar lefelau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Ers hynny, y mae Plant yng Nghymru wedi parhau i ddatblygu cysylltiadau rhyngwladol i sicrhau bod pobl anabl ifanc yn cael eu cynrychioli’n llawn wrth ddrafftio Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl. Y mae Plant yng Nghymru wedi cyfarfod â Chyfarwyddwr y Fforwm Anabledd Ewropeaidd (FfAE) i ddatblygu cysylltiadau yn Ewrop ac i drafod sut y gallai Hawliau ar Waith a FfAE weithio gyda’i gilydd.
Ym mis Mawrth, 2004, fe wnaeth Plant yng Nghymru gyflwyno cynnig i’r Comisiwn Hawliau Anabledd (CHA) i ariannu’r rhwydwaith Hawliau ar Waith am y ddwy flynedd nesaf. Fe wahoddwyd aelodau ‘Hawliau ar Waith’ i fynychu Cyfarfod Comisiynwyr y CHA i roi cyflwyniad o’u cynlluniau ar gyfer y rhwydwaith. Fe gytunodd y CHA i gyllido’r rhwydwaith sydd i’w gynnal yn gychwynnol gan Plant yng Nghymru.
Fe wnaeth Plant yng Nghymru gydlynu cyfarfod rhwng pobl anabl ifanc o Gymru a’r Comisiynydd Plant, Peter Clark. Y pynciau allweddol a drafodwyd oedd mynediad at addysg bellach a chefnogaeth mewn hyfforddiant yn y gweithle. Fe ddaw hyn yn ddigwyddiad blynyddol ac fe fydd yn gam pwysig arall i gynnal momentwm gwaith Hawliau ar Waith.
Fe gefnogwyd grwp o bobl anabl ifanc gyda chymeryd rhan yn y digwyddiad ‘Talk Back’ yng nghynhadledd y Blaid Lafur ym mis Mawrth, 2004, ble y gofynnwyd cwestiynau i Jane Hutt a Jane Davidson. Fe drefnwyd y digwyddiad ar y cyd gan grwp Swyddogion Polisi NGO.