Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Cefnogi Cynnar
  • Plant Anabl yn Cyfrif Cymru
  • Fforwm Cymru Gyfan o eiddo Plant yng Nghymru ar Faterion ar gyfer Plant a Phobl Ifanc Anabl.
    • Issues Discussed at the Last All Wales Forum
  • Diwrnodau Gwybodaeth y Fforwm Anabledd
  • Grwp Polisi ar Faterion ar gyfer Plant a Phobl Ifanc Anabl
  • Grwp ‘Gyda’n Gilydd dros Hawliau’ (‘T4R’)

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Mai 2010
Mai 2010

Mai 2010

Cymorth Cynnar: Gwella Gwasanaethau ar gyfer Plant Anabl a’u Teuluoedd yng Nghymru.

Fe roddodd Catherine Lewis o Plant yng Nghymru gyflwyniad ynglŷn â’r Rhaglen Cymorth Cynnar sydd wedi’i chyflwyno yng Nghymru i wella ansawdd, cysondeb a chydgysylltu gwasanaethau ar gyfer plant anabl o dan bum mlwydd oed a’u teuluoedd. Ymysg ei swyddogaethau y mae:-

  • Codi disgwyliad am y ffordd y mae asiantaethau a gwasanaethau yn gweithio gyda’i gilydd i ddiwallu anghenion plant a theuluoedd.  
  • Darparu adnoddau ymarferol sy’n cymell ac yn cymorth y broses newid ar lefel leol.
  • Sicrhau codi cyrhaeddiad a gwelliannau mewn lles emosiynol plant o fewn eu teuluoedd, lleoliadau ac ysgolion.

Mae Cymorth Cynnar yn rhaglen trawsnewid amlasiantaethol sy’n adeiladu ar wasanaethau a chyfundrefnau sydd eisoes wedi’u sefydlu i gymorth teuluoedd sydd â phlant anabl ifainc.    

Mae llawer o ddeunyddiau ar gael drwy gyfrwng Cymorth Cynnar.  Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi "nad y deunyddiau yw’r ymyrraeth".  Mae deunyddiau yn cynnwys:

  • Ystod o lyfrynnau Gwybodaeth i Rieni ynglŷn â chyflyrau neu anableddau neilltuol sy’n darparu gwybodaeth ‘cam cyntaf’ safonol ar gyfer teuluoedd ble mae yna ffactor neilltuol wedi’i nodi fel rhywbeth sy’n arwyddocaol i blentyn. 
  • Pecyn Teulu Cymorth Cynnar sy’n cynorthwyo gyda chydlynu gwasanaethau ar sail feunyddiol ac sy’n darparu gwybodaeth gefndirol am sut mae gwasanaethau yn gweithio.   
  • Offer Archwilio Gwasanaeth Cymorth Cynnar, sy’n cynorthwyo rheolwyr a darparwyr gwasanaethau i werthuso ansawdd y gwasanaethau sy’n cael eu darparu ac i gynllunio ar gyfer gwelliannau.
  • Ystod o ddeunyddiau Protocol Monitro/Cyfnodolyn Datblygiadol sy’n cynorthwyo teuluoedd i olrhain datblygiad eu plentyn, darparu fframwaith cyffredin sy’n cymorth trafodaeth ynglŷn â’r plentyn dros amser, yn cynnwys cymorth y plentyn a’r teulu tuag at gamau nesaf.

Mae gan bob ardal awdurdod lleol Ymgynghorydd Cymorth Cynnar dynodedig sy’n gyfrifol am gymorth y gwaith o weithredu Cymorth Cynnar mewn ardaloedd lleol, cyfrannu tuag at ddatblygu strategaethau a hyrwyddo mwy o bobl i dderbyn Cymorth Cynnar a hyfforddiant Cymorth Cynnar.  Mae angen ymwreiddio’r rhaglen mewn arfer lleol iddi allu llwyddo yn yr hirdymor.    

Cyflwyniad ar Ddogfennau yn Egluro’r Broses o Bontio i Oedolaeth ar gyfer Pobl Anabl Ifanc

Fe siaradodd Zoe Richards o Anabledd Dysgu Cymru am y tair dogfen a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru sydd â’r nod o egluro’r broses o bontio o wasanaethau plant anabl i wasanaethau oedolion.  Mae Anabledd Dysgu Cymru wedi cynhyrchu canllaw'r person ifanc i bontio, sydd â’r teitl  "Fy Mywyd I, Fy Ffordd I".  Mae hyn yn cynnwys yr hyn a ddylai ddigwydd o Flwyddyn 8 i 12 gyda chynllunio ar gyfer pontio, yr hyn sy’n digwydd mewn cyfarfod cynllunio pontio a phwy ddylai fynychu, a’r opsiynau sydd ar gael ar ôl gadael ysgol.  Hefyd yn cael eu cynnwys y mae straeon am yr hyn y mae tri o bobl ifanc wedi’i gyflawni ar ôl gadael ysgol.  Mae Sara yn gweithio’n llawn amser dros Mencap Cymru, mae Shane yn gweithio’n llawn amser yn Your Pet’s Warehouse yn Nhonypandy, ac mae Sophie yn gweithio’n llawn amser mewn Bwyty yn Ninbych-y-pysgod.  Mae SNAP Cymru yn cynhyrchu’r ddogfen, "Pontio, Canllaw i Rieni".  Mae hwn yn cynnwys gwybodaeth sy’n gyffelyb i’r canllaw i bobl ifanc, ynghyd â gwybodaeth am faterion arian, byw’n annibynnol a chyfleoedd gwaith, gorffwys a chwarae.  Mae Canolfan Anableddau Dysgu Cymru yn cynhyrchu’r Canllaw Pontio ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol.  Fe wna hwn amlygu egwyddorion pontio, a chynnwys swyddogaethau’r gwahanol asiantaethau sy’n gysylltiedig â’r broses bontio.   

Y Wybodaeth Ddiweddaraf am yr Ymgyrch Plant Anabl yn Cyfri’ Cymru

Mae Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd, wedi gwneud datganiad ynglŷn â gwasanaethau cadeiriau olwyn, yn cydnabod bod yna broblem.  Fe gafodd yr Ymgyrch Plant Anabl yn Cyfri’ Cymru hefyd ei dyfynnu yn y wasg yn y cyhoeddusrwydd dros ben.  Mae yna ddau o ddiweddariadau e-bost wedi’u hanfon allan, yn cynnwys diweddariad etholiadol yn amlygu bod Plant Anabl yn Cyfri’ Cymru wedi ysgrifennu at yr holl ddarpar ymgeiswyr seneddol yng Nghymru yn gofyn iddynt lofnodi addewid Etholaethol i gefnogi plant anabl, ac yn gofyn i gefnogwyr gyfrannu i’r byrddau trafodaeth ar wefan Plant Anabl yn Cyfri’ Cymru.  Mae Keith Bowen o Cyswllt Teulu hefyd wedi cyfarfod â Huw Lewis, y Gweinidog dros Blant.  Mae’r Ymgyrch hefyd wedi cynhyrchu maniffesto drafft ar gyfer Etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesaf.  Fe fydd hwn yn cael ei gwblhau mewn Diwrnod Hyfforddiant Ymgyrch Ddatblygedig, a hwylusir gan Positif Politics ym mis Mehefin.

Fe gafodd copïau ysgrifenedig o dystiolaeth ysgrifenedig Plant yng Nghymru i Ymchwiliad Plant a Phobl Ifanc i mewn i "Lleoedd Diogel i Chwarae ac i Ymhél" ac Ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol i mewn i Ddarpariaeth o Gadeiriau Olwyn hefyd eu rhannu gyda’r Fforwm.  Mae copïau o’r ddwy ddogfen ar gael ar adran yr Aelodau ar y wefan. 

Cyfnewid Gwybodaeth

Fe wnaeth aelodau hefyd rannu gwybodaeth am yr hyn sy’n digwydd ym mhob un o’u sefydliadau.

Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
Mai 2010

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence