Y mae’r adran hon yn darparu manylion ynglyn â chyfarfodydd o'r Fforwm Cymru Gyfan ac y mae’n amlinellu rhai o’r materion a drafodwyd mewn cyfarfodydd blaenorol.
Mai 2010
Cymorth Cynnar: Gwella Gwasanaethau ar gyfer Plant Anabl a’u Teuluoedd yng Nghymru.
Fe roddodd Catherine Lewis o Plant yng Nghymru gyflwyniad ynglŷn â’r Rhaglen Cymorth Cynnar sydd wedi’i chyflwyno yng Nghymru i wella ansawdd, cysondeb a chydgysylltu gwasanaethau ar gyfer plant anabl o dan bum mlwydd oed a’u teuluoedd. Ymysg ei swyddogaethau y mae:-
Mae Cymorth Cynnar yn rhaglen trawsnewid amlasiantaethol sy’n adeiladu ar wasanaethau a chyfundrefnau sydd eisoes wedi’u sefydlu i gymorth teuluoedd sydd â phlant anabl ifainc.
Mae llawer o ddeunyddiau ar gael drwy gyfrwng Cymorth Cynnar. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi "nad y deunyddiau yw’r ymyrraeth". Mae deunyddiau yn cynnwys:
Mae gan bob ardal awdurdod lleol Ymgynghorydd Cymorth Cynnar dynodedig sy’n gyfrifol am gymorth y gwaith o weithredu Cymorth Cynnar mewn ardaloedd lleol, cyfrannu tuag at ddatblygu strategaethau a hyrwyddo mwy o bobl i dderbyn Cymorth Cynnar a hyfforddiant Cymorth Cynnar. Mae angen ymwreiddio’r rhaglen mewn arfer lleol iddi allu llwyddo yn yr hirdymor.
Cyflwyniad ar Ddogfennau yn Egluro’r Broses o Bontio i Oedolaeth ar gyfer Pobl Anabl Ifanc
Fe siaradodd Zoe Richards o Anabledd Dysgu Cymru am y tair dogfen a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru sydd â’r nod o egluro’r broses o bontio o wasanaethau plant anabl i wasanaethau oedolion. Mae Anabledd Dysgu Cymru wedi cynhyrchu canllaw'r person ifanc i bontio, sydd â’r teitl "Fy Mywyd I, Fy Ffordd I". Mae hyn yn cynnwys yr hyn a ddylai ddigwydd o Flwyddyn 8 i 12 gyda chynllunio ar gyfer pontio, yr hyn sy’n digwydd mewn cyfarfod cynllunio pontio a phwy ddylai fynychu, a’r opsiynau sydd ar gael ar ôl gadael ysgol. Hefyd yn cael eu cynnwys y mae straeon am yr hyn y mae tri o bobl ifanc wedi’i gyflawni ar ôl gadael ysgol. Mae Sara yn gweithio’n llawn amser dros Mencap Cymru, mae Shane yn gweithio’n llawn amser yn Your Pet’s Warehouse yn Nhonypandy, ac mae Sophie yn gweithio’n llawn amser mewn Bwyty yn Ninbych-y-pysgod. Mae SNAP Cymru yn cynhyrchu’r ddogfen, "Pontio, Canllaw i Rieni". Mae hwn yn cynnwys gwybodaeth sy’n gyffelyb i’r canllaw i bobl ifanc, ynghyd â gwybodaeth am faterion arian, byw’n annibynnol a chyfleoedd gwaith, gorffwys a chwarae. Mae Canolfan Anableddau Dysgu Cymru yn cynhyrchu’r Canllaw Pontio ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol. Fe wna hwn amlygu egwyddorion pontio, a chynnwys swyddogaethau’r gwahanol asiantaethau sy’n gysylltiedig â’r broses bontio.
Y Wybodaeth Ddiweddaraf am yr Ymgyrch Plant Anabl yn Cyfri’ Cymru
Mae Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd, wedi gwneud datganiad ynglŷn â gwasanaethau cadeiriau olwyn, yn cydnabod bod yna broblem. Fe gafodd yr Ymgyrch Plant Anabl yn Cyfri’ Cymru hefyd ei dyfynnu yn y wasg yn y cyhoeddusrwydd dros ben. Mae yna ddau o ddiweddariadau e-bost wedi’u hanfon allan, yn cynnwys diweddariad etholiadol yn amlygu bod Plant Anabl yn Cyfri’ Cymru wedi ysgrifennu at yr holl ddarpar ymgeiswyr seneddol yng Nghymru yn gofyn iddynt lofnodi addewid Etholaethol i gefnogi plant anabl, ac yn gofyn i gefnogwyr gyfrannu i’r byrddau trafodaeth ar wefan Plant Anabl yn Cyfri’ Cymru. Mae Keith Bowen o Cyswllt Teulu hefyd wedi cyfarfod â Huw Lewis, y Gweinidog dros Blant. Mae’r Ymgyrch hefyd wedi cynhyrchu maniffesto drafft ar gyfer Etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesaf. Fe fydd hwn yn cael ei gwblhau mewn Diwrnod Hyfforddiant Ymgyrch Ddatblygedig, a hwylusir gan Positif Politics ym mis Mehefin.
Fe gafodd copïau ysgrifenedig o dystiolaeth ysgrifenedig Plant yng Nghymru i Ymchwiliad Plant a Phobl Ifanc i mewn i "Lleoedd Diogel i Chwarae ac i Ymhél" ac Ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol i mewn i Ddarpariaeth o Gadeiriau Olwyn hefyd eu rhannu gyda’r Fforwm. Mae copïau o’r ddwy ddogfen ar gael ar adran yr Aelodau ar y wefan.
Cyfnewid Gwybodaeth
Fe wnaeth aelodau hefyd rannu gwybodaeth am yr hyn sy’n digwydd ym mhob un o’u sefydliadau.
Nodiadau ar gyfer cyfarfod Rhagfyr 2009
Nodiadau ar gyfer cyfarfod Hydref 2009
Nodiadau ar gyfer cyfarfod Mehefin 2009.