Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Eiriolaeth
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Bwlio
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
    Cefnogi Cynnar
    Plant Anabl yn Cyfrif Cymru
    Fforwm Cymru Gyfan o eiddo Plant yng Nghymru ar Faterion ar gyfer Plant a Phobl Ifanc Anabl.
    » Diwrnodau Gwybodaeth y Fforwm Anabledd
    Grwp Polisi ar Faterion ar gyfer Plant a Phobl Ifanc Anabl
    Rhwydwaith Cymru o Bobl Anabl Ifanc
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Rhoi Diwedd ar Gosbi Corfforol
  • Cynadleddau Grwp Teuluoedd
  • Plant sy’n Derbyn Gofal
  • Y Cyfryngau
  • Cyfranogaeth
  • Magu Plant
  • Diogelu Plant
  • Y Sector Gwirfoddol
  • Gofalwyr Ieuainc

Yr ydych yn : Meysydd Gwaith »Anabledd »Diwrnodau Gwybodaeth y Fforwm Anabledd
Diwrnodau Gwybodaeth y Fforwm Anabledd

Fe fydd y diwrnodau gwybodaeth yn gyfres o seminarau sy’n cynnwys cyflwyniadau yn ymwneud â thema gyffredin; er enghraifft, cyfranogiad plant anabl, a modd i blant a phobl ifanc anabl allu cyrchu gweithgareddau chwarae a hamdden. Fe wahoddir siaradwyr i ddangos enghreifftiau o arfer da ac ymchwil o bob cwr o’r Deyrnas Unedig, y gellir wedyn eu gweithredu yn lleol.  

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Catherine M. Lewis – Swyddog Datblygu Rhoi Plant yn Gyntaf (Plant Anabl), Ffôn: 029 2034 2434, E-bost: catherine.lewis@childreninwales.org.uk

Materion a drafodwyd mewn diwrnodau gwybodaeth blaenorol:

Mai 2010: "Pethau i’w gwneud a lleoedd i fynd!" – Mynediad i weithgareddau chwarae a hamdden yn y gymuned ar gyfer plant a phobl ifanc anabl

Mae plant a phobl ifanc anabl yn wastad yn nodi mai cael mynediad i’r un gweithgareddau chwarae a hamdden â phlant neu bobl ifanc nad ydynt yn anabl yw eu prif flaenoriaeth.  Yn y seminar hwn, fe glywsom oddi wrth amrywiaeth o sefydliadau sy’n gobeithio cefnogi gwasanaethau i gynnwys plant a phobl ifanc anabl yn eu gweithgareddau.    

Catherine Lewis, Plant yng Nghymru: Fe siaradodd Cath am oblygiadau’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd ar gyfer gwasanaethau plant, a sut y gellir ei defnyddio i gymorth y gwaith o gynnwys plant a phobl ifanc anabl mewn gweithgareddau cymunedol a hamdden.   

Lindsay Brewis, Scope: Mae’r mudiad wedi cwblhau llawer o waith ar roi sylw i wella mynediad i weithgareddau chwarae a hamdden i blant anabl.  Fe wnaethant amlygu’r cyhoeddiad "Gemau y gall pob plentyn eu chwarae o fag chwaraeon – dysgu gweithredol ar gyfer plant anabl a’u teuluoedd". 

Julie Edwards, Swyddfa’r Comisiynydd Plant: Fe roddodd Julie gyflwyniad ar y canfyddiadau yn yr adroddiad "Dawn Ddedwydd", sef adroddiad yn edrych ar fynediad plant anabl i chwarae yng Nghymru 2007: adolygiad o strategaethau awdurdodau lleol.

Clebran: Mae Clebran (sgwrsio) yn grŵp sy’n darparu fforwm i bobl anabl ifanc wyntyllu’u barn.  Fe’i cynhelir gan Barnardo's ar ran y Gwasanaeth Arbenigol Plant.  Mae’r grŵp wedi nodi mynediad i weithgareddau hamdden fel un o’u prif faterion o bwys ers llawer o flynyddoedd, ac maent yn siomedig nad yw gwelliannau’n cael eu gwneud.  Yn y cyflwyniad hwn, fe wnaethant nodi anawsterau maent yn eu hwynebu o ran cael mynediad i weithgareddau hamdden, ac fe wnaethant awgrymiadau ynglŷn â sut y gellir gwella hyn. 

Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313