Mae un o bob pump o yrwyr sydd newydd gymhwyso yn y Deyrnas Unedig yn gysylltiedig â gwrthdrawiad o fewn 6 mis o fod wedi sefyll eu prawf gyrru. Mae’r mwyafrif o’r rhain yn yrwyr ifainc, ac mae cyfraddau gwrthdrawiadau gyrwyr ifainc yn cynyddu yn erbyn cyd-destun o ostyngiad mewn gwrthdrawiadau yn ymwneud â phobl eraill sy’n defnyddio’r ffyrdd.
Nod Trwyddedu Graddedig ar gyfer Gyrwyr yw mynd i’r afael â’r broblem o wrthdrawiadau ymysg gyrwyr newydd drwy ostwng y cyfle i fod yn agored i sefyllfaoedd gyrru risg uchel. Y sefyllfaoedd risg uchaf i yrwyr ifainc sydd newydd gymhwyso yw gyrru yn hwyr yn y nos a gyrru gyda theithwyr o oedran cyffelyb.
Mae wedi cael ei ddangos mewn amryw o wledydd (Seland Newydd, Awstralia, amrywiol daleithiau yn yr UD a rhannau o Ewrop) bod Trwyddedu Graddedig ar gyfer Gyrwyr yn lleihau gwrthdrawiadau ar y ffyrdd sy’n arwain at farwolaethau ac anafiadau. Fe sylwyd ar ostyngiadau mewn anafiadau a marwolaethau ffyrdd o hyd at 60% yn y gwledydd hyn, ac, yn ychwanegol, mae wedi cael ei ddangos bod trwyddedu graddedig ar gyfer gyrwyr yn gwneud i rieni a phobl ifanc deimlo’u bod wedi’u grymuso.
Y dull cyffredinol o weithredu yw pennu cyfnod o hyd penodol o 6 i 12 mis i ddysgwyr, a gaiff ei ddilyn gan gyfnod canolraddol o 24 i 30 mis, cyn ennill trwydded lawn. Yn ystod y cyfnod canolraddol, mae’r gyrrwr yn cael caniatâd i yrru ar ei ben ei hun yn ystod y dydd, ond nid oes ganddo ganiatâd i yrru ar ei ben ei hun yn y nos na gyda theithwyr, oni bai bod yna oruchwyliwr llwyr gymwysedig gydag ef. Mae yna bolisi ‘dim goddefgarwch’ ar yfed alcohol ar gyfer y gyrrwr ifanc, ac, os yn briodol, ar gyfer y goruchwyliwr sy’n gydymaith iddo. Mae rhai cynlluniau yn berthnasol i bob gyrrwr newydd, ac eraill ond i yrwyr ifainc newydd.
Mae’r Dr Sarah Jones, o Brifysgol Caerdydd, wedi llunio llythyr y gellir ei anfon at Aelodau Seneddol, ynghyd â thaenlen sy’n dangos yr amcangyfrif uchaf o nifer y bywydau a’r anafiadau difrifol y gellid eu harbed gan Drwyddedu Graddedig ar gyfer Gyrwyr bob blwyddyn yn eich etholaeth (Colofn 1) a’r gwerth amcangyfrifedig o atal y marwolaethau a’r anafiadau hyn mewn miliynau o bunnau (Colofn 2).
Am ragor o wybodaeth a chyfeiriadau, cysylltwch â’r Dr Sarah J Jones, os gwelwch yn dda: jonessj3@cf.ac.uk