Adnoddau
Gwenwyno Carbon Monocsid
Bob blwyddyn, mae rhyw 50 o farwolaethau damweiniol o ganlyniad i wenwyno Carbon Monocsid (CO) aciwt yng Nghymru a Lloegr a mwy na 200 o achosion o wenwyno nad yw’n farwol lle mae angen derbyn y dioddefwr i’r ysbyty. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu cyngor i weithwyr iechyd proffesiynol gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth am wenwyno CO.
Gwenwyno Carbon Monocsid: Marwolaethau Diangen, Anafiadau y gellir eu hosgoi
Strategaeth Diogelwch yn y Cartref Gogledd Iwerddon
Yn 2004, cynhyrchodd Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch y Cyhoedd (DHSS&PS) Gogledd Iwerddon Strategaeth a Chynllun Gweithredu pum mlynedd ar gyfer Atal Damweiniau yn y Cartref. Prif amcanion y Strategaeth oedd:
Mewn cwta bum mlynedd, mae Gogledd Iwerddon wedi cyflawni gostyngiad rhyfeddol o 54% yn y derbyniadau i’r ysbyty a achoswyd gan ddamweiniau yn y cartref.
Home Accident Prevention Strategy and Action Plan 2004 -2009 (Saesneg un unig)Report on the Review of the Home Accident Prevention Strategy and Action Plan 2004 - 2009 (Saesneg un unig)
Cyfarwyddeb Diogelwch Teganau
Daeth Cyfarwyddeb Diogelwch Teganau newydd Ewrop, a gyhoeddwyd yn 2009, i rym ar 20 Gorffennaf 2011. Erbyn hyn, mae’n rhaid i bob Aelod-wladwriaeth gydymffurfio â rheolau a gofynion diogelwch newydd i amddiffyn plant a lleihau damweiniau gyda theganau peryglus.Cyfarwyddeb Diogelwch Teganau 2009Dogfen ArweiniadTaflen Diogelwch Teganau CyfarwyddebFfeithlen Darpariaeth o ran RhybuddionFfeithlen Cwmpas y GyfarwyddebFfeithlen datganiad o GydymffurfiaethAwgrymiadau diogelwch teganau
Taflen Gwnewch hi’n Ddiogel!
Diogelwch yn y Cartref - C.M.C. (Cadwch Mewn Cof)Mae Plant yng Nghymru wedi datblygu taflen atgoffa i helpu ymarferwyr i atal y damweiniau hynny yn y cartref sy’n achosi anafiadau difrifol, marwol ac anablu yn fwyaf cyffredin i blant o dan 5 mlwydd oed.
Nod C.M.C., a gafodd ei ddatblygu ar y cyd ag Ymwelwyr Iechyd, yw codi’r materion i’w hystyried, hyrwyddo trafodaeth a chynnig cyngor cryno, hawdd ei gofio ar atal damweiniau.
Mae C.M.C. ar gael i’w brynu am gyn lleied â £29.50 am 50 o daflenni sgleiniog, cryf neu am ddim i’w lawrlwytho.
Ffurflen Archebu C.M.C.Lawrlwytho fersiwn A5Lawrlwytho fersiwn A4
Diogelwch yn y Cartref - Atal CodymauMae Plant yng Nghymru wedi datblygu cynllun sesiwn cyflawn i alluogi ymarferwyr i roi gwybodaeth am atal codymau i rieni mewn cyd-destun cymunedol.
Gan drafod codymau plant rhwng 0-5 mlwydd oed, ochr yn ochr â’r adnodd defnyddiol hwn mae dalenni dwyieithog i’w dosbarthu ac mae ar gael i’w lawrlwytho’n rhad ac am ddim.
Cynllun SesiwnCwisAtebionDalen
DVD Small Steps to SafetyMae Her Iechyd Caerffili a Phartneriaethau Cymunedau’n Gyntaf Tredegar Newydd a Fochriw wedi lansio DVD addysgol am ddiogelwch plant sy’n canolbwyntio ar ddamweiniau yn y cartref.
Cymerodd cylchoedd chwarae a thrigolion lleol ran yn y ffilmio er mwyn iddo edrych yn fwy ‘real’. Rhoddwyd cyngor ac arweiniad gan Plant yng Nghymru. Wedi cychwyn fel prosiect bach lleol, erbyn hyn mae’r DVD yn cael ei ddosbarthu i deuluoedd sy’n byw yng Nghaerffili, Casnewydd, Blaenau Gwent, Sir Fynwy a Tor-faen.
Mae copïau o’r DVD ar gael i’w prynu am £1.50 yr un. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Siân Wolfe-Williams, Cydlynydd Her Iechyd Caerffili ar 01495 235401 neu wolfes@caerphilly.gov.uk.
Pecyn Hyfforddi Ffrâm Gerdded i FabanodY mae’r pecyn hwn wedi’i gynllunio i gael ei ddefnyddio gan weithwyr iechyd proffesiynol i hyfforddi rhieni a gofalwyr plant ynglŷn â diogelwch ffrâm gerdded i fabanod.
Canllaw Arfer Da ar gyfer sefydlu a chynnal Cynlluniau Cyfarpar Diogelwch yn y Cartref Fe’i cynhyrchwyd gan Gyngor Dinas Leeds ac Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol Gogledd Orllewin Leeds. Canllaw arfer da ar gyfer unrhyw un sydd â chysylltiad gyda rhieni plant o dan bum mlwydd oed ac ar gyfer y sawl sydd â diddordeb mewn atal anafiadau.
Rhestr Wirio Diogelwch Cartref Canllaw i ddiogelwch yn y cartref ar ffurf "Rhestr Wirio Diogelwch yn y Cartref a’r Ardd" o’r peryglon sydd i’w canfod yn y cartref ac yn yr ardd. Cyhoeddwyd gan y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau.
Canllaw i Ddiogelwch Dodrefn yn yr ArddRhestr o'r peryglon sy'n ymwneud a dodrefn yn yr ardd.
Cwis DiogelwchTaflenni i’w defnyddio gyda rhieni mewn lleoliad cymunedol/mewn grŵp.
Taflen wybodaeth ar godymau
Dolenni
Atal Tân CymruY mae Atal Tân Cymru yn elusen sy’n gweithio i gadw cartrefi a chymunedau Cymru yn ddiogel rhag tân.
Cymdeithas Gwneuthurwyr Falfiau Cymysgu Thermostatig (TMVA)Amcanion y Gymdeithas Gwneuthurwyr Falfiau Cymysgu Thermostatig yw canolbwyntio sylw ar y ddarpariaeth ddiogel o ddŵr poeth wrth y man y caiff ei ddefnyddio.
Sefydliad Diogelwch yn y CartrefY mae Sefydliad Diogelwch yn y Cartref yn gweithio i annog y gwaith o ddatblygu’r safonau uchaf o ymagweddiad tuag at addysg a hyfforddiant o ran diogelwch yn y cartref.
Planhigion GwenwynigMae gwybodaeth ar blanhigion gwenwynig ar gael oddi ar wefan y Royal Horticultural Society a gwefan Real Gardeners.
Tudalennau Diogelwch yn y Cartref RoSPATudalennau diogelwch yn y cartref y Cymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau yng Nghymru.