Mae Plant yng Nghymru wedi datblygu cyfres o adnoddau hyfforddi, i hyfforddi gweithwyr proffesiynol am Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Cafodd y gwaith ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru a’i ariannu drwy Raglen Cyrraedd y Nod Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
Mae’r hyfforddiant a’r adnoddau wedi cael eu datblygu i helpu i sicrhau bod gweithwyr proffesiynol allweddol ledled Cymru, sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, yn ymwybodol o egwyddorion y Confensiwn ac yn eu deall. Mae’r hyfforddiant yn helpu gweithwyr proffesiynol i gefnogi plant a phobl ifanc i fanteisio ar eu hawliau ym mhob sefyllfa. Mae hefyd yn eu galluogi i gymhwyso eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o hawliau plant drwy eu hymarfer ac i nodi ffynonellau cefnogaeth wrth wireddu hawliau plant.
Anelir yr hyfforddiant yn arbennig at weithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym meysydd:
· Addysg
· Gwaith Cymdeithasol
· Iechyd
· Yr Heddlu a’r Gyfraith
· Cyfiawnder Ieuenctid
Mae’r hyfforddiant yn cynnwys:
· Cyflwyniad i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Cwrs hanner diwrnod nad yw’n benodol i un sector yw hwn, yn addas ar gyfer amrediad o weithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus a gwirfoddol. Gall gael ei ddefnyddio’n gwrs arunig neu wedi ei ddilyn gan naill ai:
• Hyfforddiant cyn-gymhwyso - hyfforddiant hanner diwrnod sy’n cynnwys modiwlau sector penodol, ond sy’n briodol i’r sawl sydd heb ennill eu cymhwyster proffesiynol eto, neu
• Hyfforddiant ôl-gymhwyso - hyfforddiant hanner diwrnod sy’n cynnwys modiwlau sector penodol, sy’n trafod materion ymarfer sy’n berthnasol i staff sydd newydd gymhwyso a’r sawl â phrofiad helaeth.
Mae’r sesiynau hyfforddiant cyn ac ar ôl cymhwyso wedi cael eu haddasu er mwyn i’r enghreifftiau ymarfer a’r astudiaethau achos a ddarperir ynddynt yn berthnasol i sectorau gwahanol
Mae modd lawrlwytho’r deunyddiau o wefan Lets Get it Right y Confensiwn
http://www.uncrcletsgetitright.co.uk/resourceslanding.aspx
Mae Plant yng Nghymru yn darparu hyfforddiant wedi ei gomisiynu ar Hawliau Plant, a gall ddarparu sesiynau hyfforddiant i weithwyr proffesiynol mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: Claire Sharp, Swyddog Hyfforddiant yn Plant yng Nghymru, E-bost: claire.sharp@childreninwales.org.uk