1. Cyflwyniadau
Asesu Ymarfer Dysgu: Disgyblion Ysgol Gynradd Hafod -
Os ydych eisiau gwella’ch gwasanaeth, yna gofynnwch i’r sawl sydd yn ei ddefnyddio! - gwellwch addysg disgyblion drwy asesu ymarferion dysgu. Fe wnaeth aseswyr disgyblion yn Ysgol Gynradd Hafod siarad am eu profiadau o asesu ymarfer dysgu a hefyd am yr hyn a wnaethant ei ddysgu am hawliau plant gan ddefnyddio’r model Ysgolion sy’n Parchu Hawliau.
Gwrando a Dysgu: Gareth Jones, Swyddfa’r Comisiynydd Plant
Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae Swyddfa’r Comisiynydd Plant wedi bod yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc o bob cwr o Gymru i nodi’r hyn sy’n cynorthwyo plant i gael profiad dysgu cadarnhaol. Fe wnaeth eu canfyddiadau gynorthwyo i gynllunio adnodd sydd wedi’i anelu at bawb sy’n gweithio yn y sector addysg - mae’n cynnwys negeseuon oddi wrth blant a phobl ifanc o bob cwr o Gymru am eu profiad dysgu, ac mae’n gyforiog o wybodaeth ddefnyddiol am fentrau a datblygiadau polisi cyfredol ynglŷn â chyfranogiad plant.
Newyddion! Newyddion! Newyddion!: Charlotte Drury - Uned Cymorth Partneriaeth
Fe wnaeth Charlotte ddarparu’r newyddion diweddaraf un am y Canllawiau Cynllunio Plant a Phobl Ifanc, Blaenoriaethau Cenedlaethol (6+1), Offer Gwella Hunan-asesu Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc, strwythurau mewnol Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r hyn i ddisgwyl yn y flwyddyn sydd ar ddod oddi wrth y Tîm Cymorth Partneriaeth.