Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Grwp Cyfnewid Ymarfer Hawliau Plant a Phobl Ifanc Gogledd Cymru
  • Grwp Cyfnewid Plant a Theuloedd De Cymru
    • Cyfarfodydd Blaenorol y Grwp Cyfnewid Arferion Hawliau Plant De Cymru

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Mai 2009 - Cyfarfod y Grwp Cyfnewid Arferion Hawliau Plant De Cymru
Mai 2009 - Cyfarfod y Grwp Cyfnewid Arferion Hawliau Plant De Cymru

Cyfleu’r neges i bawb – y mae ar blant a phobl ifanc angen gwybod sut i gael at eu hawliau. Y mae’r sesiwn hon yn nodi plant a phobl ifanc y mae arnynt yn aml angen cefnogaeth ychwanegol ac sy’n canfod eu hunain mewn sefyllfaoedd y tu hwnt i’w rheolaeth.

Prif ffocws y diwrnod cyfnewid ymarfer yw rhannu ymarfer gorau, amser ar gyfer rhwydweithio ar ôl cyflwyniadau a thrafodaeth ynglŷn â sut y gall ymarferwyr ysgogi newid.

1. Cyflwyniadau:

Rhwydwaith Sector Gwirfoddol Pobl Dduon Cymru (BVSNW)

Fe ffurfiwyd BVSNW o ganlyniad uniongyrchol i’r chwilio parhaus gan grwpiau a chymunedau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig am yr ateb i ragfarn, camwahaniaethu a hiliaeth y maent wedi’u profi.  Fe wnaeth Gareth Hicks, Swyddog Datblygu Ieuenctid yn BVSNW, ddarparu trosolwg ar eu gwaith a rhannu llwyddiant Rhaglen Gysylltu Ieuenctid Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig a’r prosiect ennyn diddordeb a chyfranogiad ieuenctid, ‘Signpost’.

Stonewall Cymru  

Fe sefydlwyd Stonewall mewn ymateb i gyflwyno Adran 28 Deddf Llywodraeth Leol 1988, ac yr oeddynt yn allweddol ar ôl sawl blwyddyn o ymgyrchu i lwyddo i’w diddymu yn 2003.  Yn dilyn hyn, fe gynhaliodd Stonewall arolwg i ganfod sut fath o brofiad yn union yw’r ysgol i bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol ieuainc ym Mhrydain yr unfed ganrif ar hugain.  Fe wnaeth Rhian Keyse, Swyddog Ieuenctid ac Addysg yn Stonewall Cymru, gyflwyno canfyddiadau’r arolwg a darparu deg ffordd allweddol o gefnogi disgyblion lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn yr ysgol.  

Fe wnaeth trafodaeth yn gysylltiedig â’r cyflwyniad hwn godi’r mater a ddylem anfon yr adroddiad hwn i ysgolion cynradd.  Fe deimlwyd fod yna angen mynd i’r afael â’r defnydd o iaith amhriodol o oed cynnar.  Fe gydnabuwyd hefyd fod athrawon yn aml yn barod i fynd i’r afael â’r materion a godwyd yn yr adroddiad ond nad oes ganddynt y sgiliau/hyfforddiant priodol i deimlo’n gyfforddus yn gwneud rhywbeth ynglŷn ag ef.  

NYAS (Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol)

Y mae’r Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (GEIC) yn elusen plant ‘nid-er-elw’, sy’n cyflenwi gwasanaethau eiriolaeth cyfreithiol i blant a phobl ifanc ledled y wlad.  Y mae GEIC yn darparu cyngor a chynrychiolaeth annibynnol i blant a phobl ifanc, gan sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed ym mhob mater sy’n effeithio arnynt.  Fe ofynnwyd i GEIC gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ymchwilio i’r math o wybodaeth a chefnogaeth y mae ymadawyr â gofal rhwng 14-19 mlwydd oed yn eu derbyn oddi wrth eu Hawdurdod Lleol ynglŷn ag arian a’r math o gefnogaeth a roddir iddynt.  Fe wnaeth Valerie Marshall, o NYAS, gyflwyno ar y prosiect ymchwil hwn ac fe edrychodd ar ffyrdd y gall ymarferwyr gymryd rhan.    

Fe wnaeth trafodaeth yn gysylltiedig â’r darn o waith hwn ddatgelu mai ond un person ifanc mewn un sefyllfa oedd yn ymwybodol y gallai gael at wasanaeth eiriolaeth yn ei sefyllfa addysgol.

2. Gwerthuso: Fe gafodd y cyfnewid ymarfer dderbyniad cynnes, gydag adborth cadarnhaol oddi wrth yr 16 o gyfranogwyr; fe ellir cael golwg yma ar grynodeb o’r gwerthusiad. 

3. Rhwydweithio: Fe wnaeth y sawl oedd yn mynychu gwblhau Taflen Cyfnewid Gwybodaeth, a ofynnodd iddynt rannu ‘Beth oeddynt yn ei wneud ar hyn o bryd?’ a ‘Beth mae arnoch angen?’, gyda manylion cysylltu.  Yr oedd y rhain ar gael ar gyfer eu rhannu ar y diwrnod, ac y maent ers hynny wedi’u hysgrifennu ar bapur ac fe ellir cael golwg arnynt yma.  Fe wna hyn gynorthwyo aelodau i barhau i rwydweithio a chefnogi ei gilydd ar ôl y cyfarfod.

Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
Mai 2009 - Cyfarfod y Grwp Cyfnewid Arferion Hawliau Plant De Cymru

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence