Cyflwyniadau sy’n hysbysu’r sawl sy’n mynychu am ddarnau newydd o waith i wella bywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru.
1. Cyflwyniadau:
Gwasanaeth Llinell Gymorth: Sian Pitman, Promo Cymru
Mae ProMo-Cymru yn sefydliad menter ieuenctid sy’n arbenigo yn y diwydiannau diwylliannol, gyda hanes o gymorth prosiectau arloesol a chreadigol arbrofol. Un prosiect sydd ar hyn o bryd yn cael ei hwyluso yw’r gwaith o ddatblygu gwasanaeth gwybodaeth, cynghori ac eiriolaeth drwy gyfrwng llinell gymorth ar y ffôn a dulliau cyfathrebu ar-lein fel ffynhonnell o gymorth i blant a phobl ifanc 0-25 mlwydd oed yng Nghymru. Fe ddarparodd Sian gyflwyniad ar yr hyn sydd i’w ddisgwyl oddi wrth y gwasanaeth.
Fframwaith Mesur Canlyniadau: Jackie James, Y Gangen Gweithio mewn Partneriaeth, Llywodraeth Cynulliad Cymru
Mae dangos y gwahaniaethau y gall Partneriaethau’u gwneud i fywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru yn orchwyl beichus ond fe wnaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru secondio Jackie i edrych ar y posibilrwydd o sefydlu mesurau effeithiol fydd yn dangos yn eglur effeithiau’r ymdrechion sydd wrth wraidd ein Cynlluniau Sengl. Hawliau, Dangosyddion a Chanlyniadau oedd y thema ar gyfer Cynhadledd Flynyddol Plant yng Nghymru ym mis Tachwedd, ac ‘roedd cyflwyniad Jackie ymysg y sgorwyr uchel yn y gwerthuso ar gyfer y digwyddiad. Fe wnaeth y sawl oedd yn mynychu gymryd rhan mewn ymarfer i roi gerbron eu barn ynglŷn â sut i fesur amcan craidd 5.
2. Canlyniadau Gwerthuso
3. Rhwydweithio