Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Yr ydych yn : Meysydd Gwaith »Tlodi Plant »Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru
Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru

ECPNC LOGO

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â'r Rhwydwaith, cysylltwch ag:

Anita Myfanwy

Doc Fictoria, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1TH

Ffôn: 01286 677570

E-bost: Anita.Myfanwy@childreninwales.org.uk

Y Deyrnas Gyfunol yw’r pedwerydd economi mwyaf yn y byd ond ar y llaw arall y mae ganddi un o’r lefelau uchaf o dlodi ymysg plant o’r holl wledydd diwydiannol. Fe ddengys ffigurau diweddar fod 32 y cant o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi, sy’n uwch na’r cyfartaledd Prydeinig.

Mae Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru yn glymblaid o gonsyrn sy’n canolbwyntio ar ddileu tlodi ymysg plant yng Nghymru, ac sy’n cael ei gydlynu a’i reoli o ddydd i ddydd gan Plant yng Nghymru. Mae’i grŵp llywio yn cynnwys cynrychiolaeth o bob cwr o’r sectorau gwirfoddol a statudol, ac mae gan y Rhwydwaith aelodaeth gefnogol gynyddol yn deillio o drawstoriad eang o asiantaethau.

Mae aelodau’r Grŵp Llywio yn cynnwys: Barnardo’s Cymru, Plant yng Nghymru, Achub y Plant Cymru, NEA Cymru, Gweithredu dros Blant, Cymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant Cymru, Cyngor ar Bopeth, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Oxfam Cymru, Shelter Cymru, Ymddiriedolaeth Frank Buttle, Fairbridge Cymru, a Llais Defnyddwyr Cymru. Mae Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Uned Cefnogi Partneriaethau a TUC Cymru yn sylwedyddion.

Mae Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru, sy’n weithredol ers 2001, yn cefnogi gweledigaeth y Llywodraeth na ddylai’r un plentyn yng Nghymru fod yn byw mewn tlodi erbyn 2020, ac mae’n gweithio i gyflawni hyn drwy:

  • Gwell dealltwriaeth gyhoeddus a phroffesiynol o dlodi ymysg plant yng Nghymru;
  • Cefnogaeth gyhoeddus a phroffesiynol ar gyfer mesurau i fynd i’r afael â thlodi ymysg plant;
  • Sicrhau bod polisïau yn bodoli ar bob lefel o Lywodraeth (llywodraeth leol, y Cynulliad a San Steffan), sy’n cyfrannu i ddileu tlodi ymysg plant yng Nghymru. Mae'r Grwp Llywio yn cwrdd â'r Dirprwy Weinidog dros Blant a gyda Uned Polisi Llywodraeth y Cynulliad yn rheolaidd i drafod polisiau sydd yn mynd i'r afael â thlodi plant.

Wrth ymuno â'r Rhwydwaith byddwch yn derbyn e-bwletin misol am ddim.

Ein llwyddiannau

  • Tlodi Plant seminarau, Monmouth Priory
  • Wedi lobïo Llywodraeth Cynulliad Cymru yn llwyddiannus am strategaeth tlodi plant yng Nghymru;
  • Wedi lobïo dros a chymeryd rhan yn y Grwp Gorchwyl Tlodi Plant;
  • Wedi rhoi tystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig ynglyn â thlodi ymysg plant;
  • Ymatebion i ymgynghoriadau gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol

 

Newyddion
Click here for the latest developments on child poverty in Wales.
Ymunwch â Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru
Cyhoeddiadau yn ymwneud â Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru
Wyneb tlodi yng Nghymru
Tlodi - Y Ffeithiau
Tlodi - Cwestiynau ac Atebion
Mentrau/polisïau'r Llywodraeth
Dolenni Cysylltiol
Y Cytundeb ar y Cyd ar Dlodi Plant
Siarter Tlodi Tanwydd
Cynghrair sydd wedi ei ffurffio er mwyn amlygu’r camau brys sydd eu hangen i gael gwared ar dlodi tanwydd yng Nghymru.
End Child Poverty Now!
Ymgyrch Eurochild
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313