Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Yr ydych yn : Meysydd Gwaith »Tlodi Plant »Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru »Wyneb tlodi yng Nghymru
Wyneb tlodi yng Nghymru

"Y mae Cymru yn wlad sy’n dioddef mewn lleoedd oddi wrth amddifadedd sylweddol. Y mae’r cyfryw ardaloedd yn dioddef oddi wrth safonau gwael mewn iechyd, cyrhaeddiad addysgol isel, camddefnyddio sylweddau, dibyniaeth ar fudd-daliadau a phrinder rhagolygon gwaith. Y mae gormod o deuluoedd yn profi effeithiau tlodi." Adroddiad Blynyddol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Gynhwysiad Cymdeithasol yng Nghymru (2003).

*Amharir ar 32 y cant o blant yng Nghymru gan dlodi.

Y mae teulu Dafydd ond yn un ohonynt:

Y mae hanes Dafydd** yn cyfleu’r realiti y mae llawer o blant sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru yn ei wynebu. Y mae Dafydd yn saith oed. Y mae’n byw gyda’i fam a dau frawd neu chwaer sy’n 10 ac 11 mlwydd oed. Y maent yn byw mewn ty a rentir yn breifat yng Ngogledd Cymru. Y mae Dafydd yn dioddef oddi wrth asthma, a waethygir gan y lleithder yn yr eiddo. Y mae llwydni yn tyfu ar y carpedi a’r dillad - sydd o’r herwydd yn golygu bod angen eu golchi byth a beunydd. Y mae Dafydd yn cael trafferthion yn yr ysgol. Y mae ef yn aml yn absennol o’r ysgol oherwydd ei broblemau iechyd ac y mae’n dioddef oddi wrth warthnodaeth. Y mae unedau’r gegin yn pydru oherwydd y cyflwr ac y mae hyn yn gwneud glanweithdra a choginio yn anodd. Y mae’i fam yn derbyn cymhorthdal incwm ac y mae’n gorfod treulio llawer mwy o incwm y cartref ar wresogi’r eiddo nag y dylai oherwydd cyflwr yr eiddo sy’n dadfeilio. Y mae hyn yn cael effaith ar ei gallu i fwydo’r teulu yn iawn ac i gael eitemau hanfodol eraill. Y mae cyflwr gwael fel hyn y tai a phwysau ariannol eraill yn peri straen emosiynol a meddyliol ar y teulu.

*Yn seiliedig ar ffigurau oddi wrth Ffigurau Cartrefi Islaw’r Incwm Cyfartalog (CIIC / HBAI) am 2007/08

**Y mae hanes  Dafydd yn seiliedig ar dystiolaeth achos bywyd go iawn a ddarparwyd gan Shelter Cymru.





Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313