Am fwy o wybodaeth ynglŷn â'r Rhwydwaith, cysylltwch ag:
Anita Myfanwy
Doc Fictoria, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1TH
Ffôn: 01286 677570
E-bost: Anita.Myfanwy@childreninwales.org.uk
Y Deyrnas Gyfunol yw’r pedwerydd economi mwyaf yn y byd ond ar y llaw arall y mae ganddi un o’r lefelau uchaf o dlodi ymysg plant o’r holl wledydd diwydiannol. Fe ddengys ffigurau diweddar fod 32 y cant o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi, sy’n uwch na’r cyfartaledd Prydeinig.
Mae Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru yn glymblaid o gonsyrn sy’n canolbwyntio ar ddileu tlodi ymysg plant yng Nghymru, ac sy’n cael ei gydlynu a’i reoli o ddydd i ddydd gan Plant yng Nghymru. Mae’i grŵp llywio yn cynnwys cynrychiolaeth o bob cwr o’r sectorau gwirfoddol a statudol, ac mae gan y Rhwydwaith aelodaeth gefnogol gynyddol yn deillio o drawstoriad eang o asiantaethau.
Mae aelodau’r Grŵp Llywio yn cynnwys: Barnardo’s Cymru, Plant yng Nghymru, Achub y Plant Cymru, NEA Cymru, Gweithredu dros Blant, Cymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant Cymru, (Sylwedyddion), Cyngor ar Bopeth, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Oxfam Cymru, Shelter Cymru, Ymddiriedolaeth Frank Buttle, Fairbridge Cymru, a Llais Defnyddwyr Cymru. Mae Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Uned Cefnogi Partneriaethau a TUC Cymru yn sylwedyddion.
Mae Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru, sy’n weithredol ers 2001, yn cefnogi gweledigaeth y Llywodraeth na ddylai’r un plentyn yng Nghymru fod yn byw mewn tlodi erbyn 2020, ac mae’n gweithio i gyflawni hyn drwy:
Wrth ymuno â'r Rhwydwaith byddwch yn derbyn e-bwletin misol am ddim.
Ein llwyddiannau