Mae gwaith Plant yng Nghymru yn cwmpasu ystod eang o wahanol faterion sy’n effeithio ar blant, pobl ifanc a’u teuluoedd yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys materion sy’n effeithio ar holl blant Cymru, megis ein gwaith yn ymwneud â hawliau a chyfranogiad plant, a gwaith sydd o fudd i grwpiau penodol; er enghraifft, plant sydd ag anableddau, neu blant ffoaduriaid neu blant sy’n ceisio lloches.
Ledled y gwahanol feysydd hyn o waith, ‘rydym yn cynnal ystod o weithgareddau i wella’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys trefnu digwyddiadau a chynadleddau, a chydgysylltu ystod o rwydweithiau proffesiynol sy’n dod ag aelodau ynghyd i drafod materion polisi ac arfer. Drwy’r rhwydweithiau hyn, fe allwn ni hysbysu aelodau am ddatblygiadau newydd, rhannu arfer da a datblygu safbwyntiau priodol ynghylch datblygiadau polisi.