Yn dilyn Cynhadledd Trydydd Sector Plant yng Nghymru, 'Yn y Maes - Nid Allan i Bori', a gynhaliwyd ym mis Medi 2011, rydym yn awr yn trefnu pedwar digwyddiad mewn gwahanol rannau o Gymru (gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru) i ystyried y cynnig i resymoli cynllunio a phartneriaethau, Cynlluniau Sengl Integredig - Rhannu Diben, Rhannu Darpariaeth ac i roi diweddariad Teuluoedd yn Gyntaf i gyfranogwyr.
Mae'n gyfnod arall hanfodol i sefydliadau plant a theuluoedd yn y Trydydd Sector yng Nghymru, felly os ydych yn Rheolwr, yn Ymarferydd neu'n Gynrychiolydd, beth am ymuno â ni i roi eich barn ar sut mae creu strwythurau a phrosesau i sicrhau cydweithio ac ymwneud effeithiol ar bob lefel.
O Lywodraeth Cymru, cewch gyfle i gwrdd â:
Huw Maguire - Pennaeth y Gangen Cymorth i DeuluoeddDaniel Jones - Pennaeth Partneriaeth, Llywodraethu ac Effeithiolrwydd
Dyddiadau
Cynhelir y digwyddiadau hyn yn DDI-DÂL ac mae 35 o lefydd ar gael ym mhob un ohonynt.
I neilltuo lle, llenwch y ffurflen archebu.