Am fwy o wybodaeth ynglŷn â'r Rhwydwaith, cysylltwch ag:
Anita Myfanwy
Doc Fictoria, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1TH
Ffôn: 01286 677570
E-bost: Anita.Myfanwy@childreninwales.org.uk
Y Deyrnas Gyfunol yw’r pedwerydd economi mwyaf yn y byd ond ar y llaw arall y mae ganddi un o’r lefelau uchaf o dlodi ymysg plant o’r holl wledydd diwydiannol. Fe ddengys ffigurau diweddar fod 32 y cant o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi, sy’n uwch na’r cyfartaledd Prydeinig.
Mae Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru yn glymblaid o gonsyrn sy’n canolbwyntio ar ddileu tlodi ymysg plant yng Nghymru, ac sy’n cael ei gydlynu a’i reoli o ddydd i ddydd gan Plant yng Nghymru.
Mae’r grŵp llywio yn cynnwys cynrychiolaeth o’r sectorau gwirfoddol a statudol, ac mae gan y Rhwydwaith aelodaeth gefnogol gynyddol yn deillio o drawstoriad eang o asiantaethau.
Mae aelodau’r Grŵp Llywio yn cynnwys: Barnardo’s Cymru, Plant yng Nghymru, Achub y Plant Cymru, NEA Cymru, Gweithredu dros Blant, Cymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant Cymru, Cyngor ar Bopeth, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Oxfam Cymru, Shelter Cymru, Ymddiriedolaeth Frank Buttle, Fairbridge Cymru, a Llais Defnyddwyr Cymru. Mae Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a TUC Cymru yn sylwedyddion.
Mae Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru, sy’n weithredol ers 2001. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi gweledigaeth y Llywodraeth na ddylai’r un plentyn yng Nghymru fyw mewn tlodi erbyn 2020.
Cynhelir cyfarfodydd rheolaidd rhwng y Grŵp Llywio â'r Dirprwy Weinidog dros Blant a gydag Uned Tlodi Plant, Llywodraeth Cynulliad Cymru, i drafod polisiau sydd yn ymwneud â thlodi plant.
Ceisiwn ddileu tlodi plant yng Nghymru wrth
Wrth ymuno â'r Rhwydwaith byddwch yn derbyn e-bwletin misol am ddim.Ein llwyddiannau