Rydym yn chwilio am rywun sydd â sgiliau a phrofiad sylweddol i ymuno â thîm gweithgar yr Uned Cyfranogaeth, ac i weithio gyda’r Consortiwm Cyfranogaeth amlasiantaethol. Bydd yr unigolyn hwn yn gyfrifol am reolaeth weithredol, strategol ac ariannol yr Uned Cyfranogaeth, ac am gynllunio a chodi arian i sicrhau dyfodol yr Uned. Rhaid i’r unigolyn a benodir fod yn ymrwymedig i gyfranogaeth a hawliau plant, yn gyfathrebwr heb ei ail ac yn rheolwr llinell cefnogol ac effeithiol sy’n gallu meddwl
mewn ffordd strategol a gweithio’n effeithiol mewn partneriaeth â mudiadau eraill. Cynigir y swydd hon yn gyntaf oll ar sail cyfnod penodol hyd at ddiwedd Mawrth 2011, nes ceir cadarnhad ynglŷn â pharhad y cyllid ym mis Rhagfyr eleni. Ystyrir secondiadau. Cyf 5892.
I gael rhagor o fanylion ac i wneud cais, ewch i www.savethechildren.org.uk/jobs
Dyddiad cau: hanner nos 19eg Medi 2010.
Cynhelir cyfweliadau ar gyfer y swydd hon ar 29ain Medi 2010.