Dewch i ymweld â stondin Sefydliadau Gwirfoddol Plant at yr Eisteddfod!
Digwyddiadau
Cyngor Ffoaduriaid CymruDydd Sadwrn 31 Gorffennaf 2010 (10am i 4pm)Bydd Cyngor Ffoaduriaid Cymru yn cynnal cystadleuaeth gelf yn seiliedig ar Affrica
Clybiau Plant CymruDydd Sul 1 Awst a dydd Llun 2 Awst 2010 (10am i 4pm bob diwrnod)Byddwn yn cyflwyno gweithgareddau o adnoddau Dwylo ar Hanes, sydd newydd eu lansio ar gyfer Ymgyrch Hanes y Normaniaid y BBC. Byddwn yn gwahodd plant i wneud tariannau Normanaidd a dysgu am gestyll tomen a beili. Bydd y gweithgareddau hyn yn addas ar gyfer rhai 6-12 oed
Canolfan Plant Jig-So Dydd Mawrth 3 Awst a dydd Mercher 4 Awst 2010 (10am i 4pm bob diwrnod)Byddwn yn cyflwyno nifer o weithgareddau wedi’u hanelu at blant bob oedran. Bydd y gweithgareddau yn cynnwys Batik Cwyr Oer lle medrir tynnu llun gyda chreon cwyr, ei seilio a’i doddi ar ffabrig yn defnyddio haearn smwddio. Medrir wedyn liwio’r llun yn defnyddio brwshys ac amrywiaeth o lifynnau lliwgar. Peintio Deunydd ar grysau ti a chotwm. Cyfle i fod yn greadigol a chael llawer o hwyl yn defnyddio paent ffabrig a phennau lliwio a chreonau a gaiff eu rhoi yn eu lle pan eir â hwy adref i gael eu smwddio. Caiff yr holl weithgareddau eu goruchwylio gan weithwyr chwarae ac athro celf, oll gyda chymwysterau
Plant yng NghymruDydd Iau 5 Awst 2010 (10am i 1pm)Byddwn yn darparu gweithgareddau celf a chrefft i blant, yn cynnwys gwneud bathodynnau
Rhwydwaith Rhannu’r GofalDydd Iau 5 Awst 2010 (1 – 4pm)Bydd Rhwydwaith Rhannu’r Gofal Cymru yn cynnal Fforwm ar gyfer gofalwyr egwyl fer ac unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc gydag awtistiaeth ac anhwylderau cysylltiedig
Rhwydwaith Gweithwyr Cyfranogiad CymruDydd Gwener, 6 Awst 2010 (10am i 4pm)Bydd Rhwydwaith Gweithwyr Cyfranogiad Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gyda Youth Friendly. Gall pobl ifanc ddewis pwnc o ddiddordeb, ymchwilio eu safbwyntiau ac yna gael eu ffilmio’n lleisio eu barn. Bydd hyn wedyn yn dangos sut y gall pobl ifanc fod â barn gyfrifol ar faterion pwysig