Mae RAY Ceredigion yn cynnal noson o SIOP GYFNEWID o weithgareddau yng Ngwesty’r Plu, Aberaeron ar Nôs Fercher 17eg o Fawrth 2010 o 6.30 - 9.30yh.
Mae presenoldeb yn rhad ac am ddim, darperir tê a choffi a cyrri.
Mae’r digwyddiad yma wedi ei anelu at y canlynol:
Er mwyn archebu lle, mae’n ofynnol i chi ddanfon syniad o weithgaredd i ni ar dudalen A4 y medrwn ei lun-gopïo a’i rannu gydag eraill ar y noson. Rhaid i chi medru dod ag esiampl (wedi ei wneud eisioes) o’r peth neu’r weithgaredd sydd wedi ei ddisgrifio ar y daflen A4, neu lun o’r weithgaredd, a dod â nhw i’r digwyddiad. Bydd yna le i arddangos y pethau/lluniau yn ystod y noson, ac fe fyddwn yn gwneud llyfryn o’r holl syniadau a dderbynir fel y gall pob person/grŵp sy’n mynychu’r weithgaredd fynd nôl gyda hwy.
Bydd deunydd ar gael ar y noson fel y medrwch rhoi cynnig i wneud rhai o’r pethau a awgrymir.
Danfoner ceisiadau at: Gill Byrne, RAY Ceredigion, Uned 9, Canolfan Crefft, Aberaeron, Ceredigion SA46 0DX
01545 57 686 / 07525206252 gill.byrne@btconnect.com