Cwrs un-dydd a hwylusir gan Plant yng Nghymru
Cwrs cyflwyniadol yn defnyddio ystod o ddulliau cyfranogol wedi eu hanelu at ymarferwyr a rheolwyr yn y gwasanaethau gofal cymdeithasol, iechyd, addysg a diogelu’r cyhoedd. Mae’r cwrs hwn ar gyfer rhai sy’n newydd i’r maes hwn o waith neu i bobl sy’n dymuno diweddaru eu gwybodaeth o’r ‘agenda seiliedig ar hawliau’ sy’n datblygu yng Nghymru.
Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y prosiect Cyrraedd y Nod, gan gefnogi pobl ifanc i ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy brofiad gwaith a chyfleoedd wedi’u lleoli yn y gymuned.
Mae’r hyfforddiant hwn wedi’i ddatblygu a’i gyllido drwy Gronfa Gydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewrop, ac mae lleoedd yn rhad ac am ddim ond yn gyfyngedig i ymarferwyr sy’n gweithio’n gyfan gwbl neu’n bennaf mewn ardaloedd Cydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewrop (Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Abertawe, Castell Nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent, Caerffili, Torfaen). Fe all fod yna gyrsiau cyffelyb ar gael ar gyfer y sawl sy’n gweithio mewn rhanbarthau eraill o Gymru. A fyddech cystal â chysylltu â Plant yng Nghymru am fanylion.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch Plant yng Nghymru 029 2034 2434