Hyfforddiant Deuddydd
Digwyddiad AM DDIM (y ffi arferol yw £200 yr un)
Ar hyn o bryd, mae prinder o ran tadau sy’n cymryd rhan mewn gofal cyn-geni, tadau absennol, diffyg hunan barch a lefelau cyrhaeddiad isel ymhlith bechgyn, ymddygiad gwrthgymdeithasol a niweidiol ymhlith llanciau a phrinder modelau rôl gwrywaidd da. Mae’r rhain yn faterion cymhleth ac anodd. Mae pob teulu’n wahanol, ac mae pob un angen gofal a sylw. Serch hynny, mae angen ymdrin â’r materion hyn ar frys er mwyn cael atebion a ffyrdd o weithio gyda thadau.
Mae’r cwrs deuddydd hwn yn dechrau’r broses honno. Mae’n annog trafodaeth ac yn canolbwyntio’r sylw ar ffyrdd o gynnwys tadau, a fydd o fudd uniongyrchol i’w plant, eu partneriaid ac i’r gymdeithas gyfan.
Mae’r cwrs hwn yn cael ei anelu at weithwyr sydd am greu cyswllt ystyrlon â thadau. Mae cyfyngiad ar nifer y lleoedd sydd ar gael.
I GADW LLE, CYSYLLTWCH Â:-
E-bost: cypptraining@powys.gov.uk – Ffôn: 01597 826058